Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymdrechu i gadw’r ffyrdd mewn cyflwr da, felly mae’n angenrheidiol cynnal atgyweiriadau hanfodol.
Cliciwch ar yr eicon uchod i weld yr adroddiad ffyrdd diweddaraf a’r adroddiad cau.
Mae map gwaith ffordd a gynhelir yn allanol i Gyngor Sir Fynwy drwy wefan One Network ar gael.
Caiff y map ei ddiweddaru bob ychydig funudau yn dangos gwaith ffordd ar draws y rhwydwaith priffyrdd.
Caiff data gwaith ffordd ei ddarparu drwy glicio symbol, er enghraifft isod.
Sut y ydym yn cydlynu gwaith ffordd ar briffyrdd
Rheolwyr y Rhwydwaith Priffyrdd sy’n gyfrifol am gydlynu a monitro gwaith stryd sy’n cael ei gwblhau ar rwydwaith ffyrdd Sir Fynwy.
Fel rhan o’n cyfrifoldebau, rydym yn cynnal cyfarfodydd chwarterol gyda chwmnïau cyfleustodau (cydlynu gwaith/digwyddiadau a chyfarfodydd gwrthdaro Pwyllgor Cyfleustodau ac Awdurdodau Priffyrdd De Ddwyrain Cymru).
Yn y cyfarfod rydym yn trafod prosiectau mawr sydd ar y gweill, gwaith sydd angen ei wneud yn y dyfodol a digwyddiadau a allai effeithio ar briffyrdd, ynghyd â materion eraill sy’n gysylltiedig. Mae’r wybodaeth am y gwaith sydd ar y gweill yn cael ei chrynhoi i greu rhaglen waith a’i nodi ar y gofrestr gwaith stryd er mwyn canfod unrhyw wrthdaro posibl.
Mae’r gofrestr gwaith stryd yn cynnwys gwybodaeth am:
- y cwmni sydd yn gwneud y gwaith
- y dyddiadau y bwriedir dechrau a gorffen y gwaith
- lleoliad y gwaith
- disgrifiad o’r gwaith sydd angen ei wneud
Yna mae’r wybodaeth hon yn cael ei hychwanegu i’r adroddiad gwaith ffordd wythnosol
Adran 58
Mae Adran 58 yn hysbysiad rhybudd ffurfiol a gyhoeddir gan yr awdurdod, sy’n hysbysu’r holl bartïon sydd â diddordeb bod gwaith ffordd sylweddol yn cael ei wneud. Anfonir yr hysbysiad hwn tua 3 mis cyn dechrau’r gwaith, er mwyn galluogi pob parti dan sylw i wneud unrhyw waith sydd ei angen. Unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau, caiff y ffordd ei ddiogelu am hyd at 5 mlynedd ar y mwyaf, yn dibynnu ar y math o waith. Enghreifftiau o waith dan sylw:
- ailadeiladu priffordd
- ail-wynebu
- tawelu traffig
- trefn ffyrdd newydd
Trwydded Gwaith Stryd
Os ydych chi neu’ch sefydliad yn dymuno gosod neu gynnal offer preifat yn y briffordd gyhoeddus, rhaid i chi gael trwydded oddi wrth yr Awdurdod Priffyrdd perthnasol. Rhoddir trwyddedau o’r fath dan Adran 50 Deddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991. Rhaid i berchennog y cyfarpar arfaethedig, a/neu’r tir y bydd y cyfarpar yn ei wasanaethu, gwneud y cais.
Os ydych chi’n dymuno cloddio yn y briffordd gyhoeddus ar gyfer unrhyw waith arall nad yw’n cynnwys cyfarpar yna bydd angen i chi wneud cais o dan Adran 171 o Ddeddf Priffyrdd 1980.
Cyn cyflwyno cais, mae’n ofynnol ichi ffonio 01633 644644 i drefnu cyfarfod ar y cyd ag arolygydd. Yn ystod y cyfarfod bydd yr arolygydd yn rhoi cyngor ar unrhyw broblemau posibl ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Cais: Trwydded Adran 50
Cais: Trwydded Adran 171
Gwnewch gais am archebu lle ar y ffordd
Rhaid i unigolyn preifat sy’n dymuno meddiannu’r briffordd gyhoeddus (NID AR GYFER CLODDIO) am unrhyw reswm, gwblhau hysbysiad meddiannaeth ffordd. Gall methu â gwneud hynny achosi gwrthdaro gwaith.
Ar gyfer cloddio, dilynwch gyfeiriadau Trwydded Gwaith Stryd.
Arwyddion Traffig Dros Dro
Rhaid i chi wneud cais am ganiatâd i osod arwyddion traffig dros dro ar y briffordd gyhoeddus.
Cais: Ffurflen Gais Arwyddion Traffig Dros Dro
Os ydych yn dod ar draws unrhyw broblemau goleuadau traffig gallwch roi gwybod i ni gan ddefnyddio’r ffurflen isod.
Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol, ond wrth gofrestru eich manylion fe allwch olrhain cynnydd yr hyn yr ydych wedi ei adrodd, a derbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y mater wrth iddo gael ei brosesu.
Os ydych eisoes wedi cofrestru drwy ddefnyddio ap Fy Sir Fynwy, sydd ar gael ar hyn o bryd ar ddyfeisiau Apple, Android a Windows gallwch ddefnyddio’r un cyfeiriad e-bost a chyfrinair i fewngofnodi.