Sut mae’ch arian yn cael ei wario a beth sydd yn rhan o’ch bil
Mae’r dreth gyngor yn helpu ariannu gwasanaethau lleol fel ysgolion, gofal cymdeithasol, gwasanaethau casglu gwastraff, goleuo’r strydoedd, hamdden a diwylliant, gwasanaethau brys a llawer iawn mwy.
Mae’r dreth gyngor yn cael ei thalu gan yr aelwyd ac yn seiliedig ar werth eich eiddo. Bydd y swm y mae’n rhaid talu yn ddibynnol ar ba fand yw eich tŷ. Mae’r bandiau yma yn cael eu pennu gan y Swyddfa Brisio.
Mae’r swm yr ydych yn talu hefyd yn ddibynnol ar ydych yn gymwys i elwa o unrhyw eithriadau neu ostyngiadau.
Ewch i ddarllen nodiadau esboniadol am y Dreth Gyngor am fwy o wybodaeth.
Faint sy’n rhaid i mi dalu?
Er mwyn cadarnhau faint o dreth gyngor y mae’n rhaid i chi dalu, bydd angen cadarnhau ym mha fand cyngor cymuned a threth gyngor yw eich eiddo. Rydych wedyn yn medru gwirio hyn yn erbyn ein.
Yn seiliedig ar eiddo Band D cyfartalog, y ffi ar gyfer 2023/24 yw £1,959.94, o’i gymharu gyda £1,847.25 yn 2022/23. Mae hyn wedi ei rannu fel a ganlyn:
2022/23 | 2023/24 | % Cynnydd | |
Cyngor Sir Fynwy | £1,476.79 | £1,564.66 | 5.95 |
Comisiynydd Heddlu a Throseddu | £303.80 | £324.52 | 6.82 |
Cyngor Cymuned | £66.66 | £70.76 | 6.15 |
CYFANSWM | £1,847.25 | £1,959.94 | 6.10 |
Mae’r Dreth Gyngor yn cynnwys tair elfen:
Mae cyllideb Cyngor Sir Fynwy ar gyfer 2023/24 yn cynnwys cynnydd treth gyngor o 5.95%.
Y gyllideb refeniw gros ar gyfer yr Awdurdod (gan gynnwys y praeseptau ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a’r Cyngor Cymuned) yw £208,515,191. Mae hyn yn cynnwys y cynllun i wario £3,509,050 o refeniw wrth gefn. Mae’r rhagolygon o’r refeniw wrth gefn y mae modd ei wario yn debygol o fod yn £15,634,717 ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.
Mae’r gyllideb sydd wedi ei pharatoi yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiadau, er enghraifft:
- £2.5m mwy yn cael ei fuddsoddi yn ein hysgolion
- £3.6m mwy yn y plant hynny sydd yn y system gofal
- £1.9m er mwyn sicrhau nad oes rhaid i neb gysgu yn yr awyr agored
- £1m ychwanegol er mwyn talu am ofal ar gyfer aelodau hŷn ein cymunedau
- £0.5m pellach yn y gost o gynnal heolydd, palmentydd a seilwaith priffyrdd eraill
Am fanylion ynglŷn â sut y mae’r arian yma yn cael ei wario, ewch i yma.
Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer Gwent wedi cynyddu’r swm sydd ei angen gan drethdalwyr yn 2023/24 gan 6.82%. Am fanylion ynglŷn â sut y mae’r arian yma yn cael ei wario, ewch i yma.
Cynghorau Cymuned – mae’r ffi Band D cyfartalog ar gyfer 2023/24 wedi cynyddu 6.15%. Bydd y ffioedd yn amrywio yn ôl y cyngor cymuned a bydd y ffi felly yn ddibynnol ar ble ydych yn byw.
Er mwyn medru gweld y gwariant blynyddol disgwyliedig a’r ffi Band D ar gyfer y cyngor cymuned lle’r ydych yn byw, ewch i’r fand cyngor cymuned. Am fanylion ynglŷn â sut y mae’r arian yma yn cael ei wario, mae angen i chi gysylltu gyda’ch cyngor cymuned. Mae’r manylion cyswllt ar gael yma – manylion cyswllt y Cynghorau Cymuned.