Dylai ymwelwyr sydd yn dod i’r Siopau Ailddefnyddio poblogaidd yn nghanolfannau ailgylchu Llan-ffwyst a Five Lanes wneud nodyn yn eu dyddiaduron gan fod y ddwy siop yn ail-agor yn ystod yr wythnos sydd yn dechau ar 14eg Mawrth – a hynny am y tro cyntaf eleni.
Dylid nodi fod y diwrnodau agor eleni yn wahanol gyda Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst ar agor bob dydd Mawrth rhwng 10am a 3pm, a Siop Ailddefnyddio Five Lanes nawr ar agor bob dydd Mercher rhwng 10am a 3pm.
Mae Siopau Ailddefnyddio’r Cyngor ger canolfan ailgylchu Five Lanes yng Nghaerwent a chanolfan ailgylchu Llan-ffwyst ger Y Fenni ac maent yn gwerthu eitemau sydd wedi eu hachub o’r sgipiau ac ar werth am brisiau sydd yn fargen. Mae’r stoc o’r ddwy siop yn dod o eitemau sydd wedi eu hachub gan y timau sydd yn dal gafael ar eitemau wrth iddynt adael cist ceir ond cyn eu bod yn cael eu taflu i’r sgipiau. Un o uchafbwyntiau’r llynedd oedd y tîm yn achub tegan Mickey Mouse o’r 1930au sydd wedi ei gyfrannu erbyn hyn i amgueddfa leol. Nid yw pob dim sydd yn cael ei achub yn drysor prin, ond mae pob dim yn bwysig ac yn helpu lleihau gwastraff.
“Rydym wir yn disgwyl ymlaen at groesawu cwsmeriaid a gwirfoddolwyr yn ôl i’r siopau eto,” dywedodd Rebecca Blount, Swyddog Ailddefnyddio ac Ailgylchu. “Mae llawer o gwsmeriaid ffyddlon gennym sydd yn ymweld â ni bob wythnos neu ddwy, ac mae’n hyfryd cael sgwrsio gyda hwy. Mae’r stoc sydd yn ein siop yn newid yn barhaus wrth i fwy a mwy o eitemau gael eu hachub. Mae rhywbeth gennym ar gyfer pawb. Mae eitemau fel byrddau coffi yn berffaith ac ond angen bach o baent neu wêr tra bod y cadeiriau yn gyfle perffaith i rywun eu hail-wampio.”
“Mae’r Siopau Ailddefnyddio yn rhan o economi gylchol ffyniannus Sir Fynwy – sydd yn cynnwys caffis atgyweirio, llyfrgelloedd cymunedol a’r Llyfrgell o Bethau sydd yn ceisio mynd i’r afael gyda Newid Hinsawdd. Rydym yn gwneud gwahaniaeth bob tro ein bod yn prynu eitem sydd eisoes wedi eu defnyddio, ac felly, pam fod angen prynu rhywbeth newydd pan fod cymaint o bethau cyffrous, gwreiddiol a phenigamp yma? Rydym yn annog trigolion i ddod yma i fwrw golwg – nid oes rhaid prynu, ond dewch draw pan fyddwn ni ar agor. Mae’r stoc sydd ar gael yn dangos faint o bethau sydd wedi eu hachub yn sgil ymdrechion pawb yn y canolfannau ailgylchu a’r siopau yn Five Lanes a Llan-ffwyst.”
Ers agor Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst ym Mehefin 2019, amcangyfrifir fod mwy na 19,500 o eitemau wedi eu hachub o’r sgipiau ac mae’r elw wedi ein helpu i blannu 12842 o goed (12259 o goed chwip a 583 o goed ifanc rhwng 6 ac 8 troedfedd, sydd yn aml yn cael eu gweld mewn parciau a mannau agored) ar draws Sir Fynwy.
Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, agorodd Siop Ailddefnyddio Five Lanes yn haf 2021 ac fel siop Llan-ffwyst, mae’n ddibynnol ar gefnogaeth y gymuned leol. Mae staff ymroddedig a thîm o wirfoddolwyr brwdfrydig yn gweithio er mwyn trefnu bod stoc yn y siop ac yn cyflwyno’r eitemau gorau sydd wedi eu hachub ar gyfer cael eu gwerthu. O gyfarpar ar gyfer yr ardd, gan gynnwys potiau ac offer yr ardd a’r gegin, hen greiriau, eitemau bach o gelfi, gwydrau, llestri i’w gosod ar fyrddau, lluniau, teganau, llyfrau, beiciau ar gyfer pob oedran a phethau i’w casglu, mae’r ystod o bethau sydd ar gael yn ehangu drwy’r amser wrth i ni achub mwy a mwy o bethau. Os ydych yn chwilio am rywbeth penodol, yna rhowch wybod i rywun yn y siop – mae’r amrywiaeth o eitemau sydd ar gael yn anhygoel.
Mae’r elw o’r Siopau Ailddefnyddio yn cefnogi ymgais Cyngor Sir Fynwy i blannu coed. Mae hyn yn helpu yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a hefyd yn lleihau’r costau sydd yn wynebu’r Cyngor wrth i ni geisio cael gwared ar bethau. Yn ystod yr haf, bydd Siop Ailddefnyddio Five Lanes hefyd yn gwerthu bagiau compost i wella pridd/compost am £2 y bag. Mae’r compost yn cael ei wneud o’r gwastraff o’r ardd sydd yn dod i’r canolfannau ailgylchu a’n cael ei baratoi gan Wastraff Gwyrdd Y Fenni.
Mae Siop Ailddefnyddio Llan-ffwyst ar agor bob dydd Mawrth rhwng 10am a 3pm, tra bod Siop Ailddefnyddio Five Lanes ar agor bob dydd Mercher rhwng 10am a 3pm. Am fwy o wybodaeth, ewch os gwelwch yn dda i: https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/