Trafod cyfleoedd ariannu ar gyfer trefi, gan gynnwys Cil-y-coed a Threfynwy
Yng nghyfarfod y cabinet yr wythnos diwethaf, cadarnhaodd Cyngor Sir Fynwy y byddai’n ailgyflwyno ei ddau gais ar gyfer Cil-y-coed a Threfynwy yn Rownd 2 Cronfa Codi’r Gwastad Llywodraeth y DU, sy’n £4.8 biliwn, a fydd yn ailagor yng Ngwanwyn 2022. Roedd y ddau gais yn ‘becynnau’ a oedd yn cynnwys: Cil-y-coed – Canolfan Hamdden, tir cyhoeddus a chaffael ac adnewyddu eiddo yng nghanol y dref; Trefynwy – Sefydlu canolfan ymwelwyr yn Neuadd y Sir, ail-bwrpasu Neuadd y Farchnad a gwella tir y cyhoedd. Bydd cais trafnidiaeth ychwanegol hefyd yn cael ei ddatblygu o amgylch prosiectau a nodwyd drwy Astudiaeth Drafnidiaeth Cas-gwent a fydd yn ceisio datblygu canolfan drafnidiaeth integredig ar gyfer yr ardal.
Mae’r Gronfa Codi’r Gwastad yn buddsoddi mewn seilwaith sy’n gwella bywyd bob dydd ledled y DU, gan gynnwys adfywio canol trefi a strydoedd mawr, uwchraddio trafnidiaeth leol, a buddsoddi mewn asedau diwylliannol a threftadaeth.
Buddsoddiadau trafnidiaeth gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) drafnidiaeth gyhoeddus, teithio llesol, atgyweirio pontydd, lonydd â blaenoriaeth bysiau, gwelliannau i ffyrdd lleol a chynnal a chadw strwythurol mawr, a gwelliannau hygyrchedd. Mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gynigion ar gyfer cynlluniau trafnidiaeth lleol bach, canolig a, thrwy eithriad, rhai mwy o faint i leihau allyriadau carbon, gwella ansawdd aer, lleihau tagfeydd, cefnogi twf economaidd, a gwella profiad defnyddwyr trafnidiaeth.
Adfywio a buddsoddi yng nghanol trefi, gan adeiladu ar fframwaith y Gronfa Trefi (nid oedd y gronfa hon ar gael yng Nghymru) i uwchraddio adeiladau hyll a seilwaith sydd wedi dyddio, caffael ac adfywio safleoedd tir llwyd, buddsoddi mewn seilwaith cymunedol diogel a lleihau trosedd, a dod â gwasanaethau cyhoeddus a mannau cymunedol diogel i ganol trefi a dinasoedd.
Buddsoddiad diwylliannol cynnal, adfywio, neu ail-lunio amgueddfeydd, orielau, atyniadau ymwelwyr (a mannau gwyrdd cysylltiedig) ac asedau treftadaeth yn greadigol yn ogystal â chreu mannau newydd sy’n eiddo i’r gymuned i gefnogi’r celfyddydau a gwasanaethu fel mannau diwylliannol.
Bu aelodau’r Cabinet hefyd yn ystyried gwybodaeth a dderbyniwyd am Gronfa Ffyniant a Rennir y DU a fydd yn gweld pob Awdurdod Lleol yn cael swm a ddyrannwyd o’r gronfa £2.6bn (dyraniad y DU hyd at fis Mawrth 2025) ar gyfer ei ardal ddaearyddol. Bydd yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol gydweithio i ddatblygu Cynlluniau Buddsoddi yn nodi sut y bydd yn cyflawni ei gyfran o’r gronfa sydd wedi’i chynllunio i gefnogi Blaenoriaethau Buddsoddi: Cymunedau a Lle; Busnesau Lleol; a Phobl a Sgiliau. Bydd Partneriaeth Leol sy’n canolbwyntio ar y dinesydd hefyd yn cael ei sefydlu i lywio’r gwaith o baratoi a datblygu Cynllun Buddsoddi’r sir.
Cytunodd yr Aelodau hefyd i hyrwyddo a chefnogi grwpiau gwirfoddol a chymunedol lleol i wneud cais yn ail rownd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gwerth £150M, a fydd yn rhedeg am bedair blynedd. Diben y Gronfa yw galluogi sefydliadau gwirfoddol a chymunedol i gymryd perchnogaeth o asedau ac amwynderau sydd mewn perygl o gael eu colli i’r gymuned. Gall sefydliadau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am arian cyfatebol i gefnogi costau prynu a/neu adnewyddu asedau ac amwynderau cymunedol. Mae enghreifftiau’n cynnwys cyfleusterau chwaraeon a hamdden, theatrau a sinemâu, amgueddfeydd, orielau, tafarndai, siopau ac adeiladau swyddfeydd post.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Sara Jones: “Bydd swyddogion y Cyngor yn datblygu ac yn ailgyflwyno, lle bo angen, geisiadau am yr arian hwn wrth iddynt ddod ar gael. Cyhoeddir canlyniadau’r ceisiadau hynny pan fyddant yn hysbys. Mae sicrhau’r lefel hon o gyllid yn eithriadol o bwysig wrth i ni geisio gwneud Sir Fynwy’r lle gorau ar gyfer busnes, i fyw ynddi ac i dyfu i fyny ynddi. Mae sicrhau bod gan ein sir y gefnogaeth sydd ei hangen arni ar gyfer twf economaidd a lles yn y dyfodol yn un o nodau craidd y cyngor.”