Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gosod ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod yn yr amgylchiadau mwyaf heriol. Cafodd y pandemig effaith pellgyrhaeddol ar bob agwedd o gymdeithas, gyda chwyddiant yn rhedeg o flaen ei hun am y tro cyntaf mewn degawd, mae’r rhan fwyaf o bobl yn bryderus am bris bwyd a thanwydd, ac mae rhyfel yn Ewrop a rhannau eraill o’r byd. Mae’r bwlch rhwng y rhai sydd â mwy na maent ei angen a’r rhai heb ddigon i fyw bywyd da yn cynyddu. Er mai lle bach iawn yw Sir Fynwy pan y’i gwelir drwy’r llygaid cenedlaethol a rhyngwladol hyn, dyma’r lle yr ydym i gyd yn ei alw’n gartref ac mae’r gyllideb hon yn wirioneddol bwysig.
Dywedodd y Cyng Richard John, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Wrth osod y gyllideb hon ar gyfer 2022/23 rydym wedi dewis buddsoddi yn y pethau sydd bwysicaf i’r cyhoedd. Rydym eisiau’r gorau i’n plant, rydym eisiau’r gorau ar gyfer y rhai sy’n llesg ac yn fregus, rydym eisiau’r gorau ar gyfer y rhai nad oes ganddynt le i’w alw’n gartref ac mae’n rhaid i ni wneud mwy i fynd i’r afael â newid hinsawdd os ydym i gael planed o gwbl. Ni fu erioed ac ni fydd byth ddigon o arian i wneud popeth yr hoffem ei wneud felly’r cyfan y medrwn ei wneud yw gwneud ein gorau glas ar eich rhan.”
Mae’r gyllideb derfynol yn cynnwys ystod eang o fuddsoddiad gyda £1.6m yn fwy i’n hysgolion; £1.8m yn fwy i blant yn y system gofal; £2m i sicrhau nad yw’n rhaid i neb gysgu tu fas; £2.2m i ofal plant yn y system gofal; £2.2m i ofal aelodau hŷn ein cymuned; £0.8m i wneud yn siŵr fod y sir mor lân ag y gall fod a £1.8m i gynnal a chadw ffyrdd, palmentydd a seilwaith priffyrdd arall.
Mae cyllideb eleni yn cynnwys ysgol 3-19 newydd i’r Fenni a chynyddu darpariaeth Gymraeg ar gyfer plant cynradd ar draws Sir Fynwy. Bydd hefyd yn helpu’r sir i symud tuag at ailddefnyddio neu ailgylchu 70% o’r holl wastraff a gynhyrchir. Mae hefyd yn ymrwymo i sicrhau fod pawb y mae’r cyngor yn eu cyflogi yn parhau i dderbyn leiaf y cyflog byw gwirioneddol a bydd yr ymrwymiad hwn yn ymestyn i bob lleoliad gofal cymdeithasol y mae’r cyngor yn comisiynu gwasanaethau ganddynt.
Ychwanegodd y Cyng. Phil Murphy, aelod cabinet Adnoddau: “Mae’r gyllideb hwn yn ymwreiddio ymrwymiad i ddefnyddio ein grym prynu mewn ffordd foesegol gyda nwyddau’n cael eu cyrchu o fewn Sir Fynwy neu mor agos i’r sir ag sydd modd. Bydd yn ein gweld yn parhau i gefnogi lleoliadau prentisiaid a darparu cyfleoedd yn y flwyddyn i ddod, ein gweld yn cryfhau ein timau diogelu’r cyhoedd fel y gallwn chwarae rôl amlycach mewn diogelu iechyd cyhoeddus a pharatoi’r ffordd ar gyfer cyflwyno prydau ysgol am ddim ar gyfer pob plentyn mewn ysgolion cynradd. Dyma ein penawdau ond mae mwy yn y manylion. Mae’r pethau hyn yn costio arian ac felly gofynnwn i breswylwyr dderbyn cynnydd o 2.95% yn y dreth gyngor. Hwn yw ein cynnydd isaf am naw mlynedd ac mae’n llawer is na chyfradd chwyddiant. Pe gallem fod wedi mynd yn is a bod yn gyfrifol, byddem wedi gwneud hynny ond ein barn yw y gallai effeithio ar lefel y gwasanaeth mae angen i ni ei ddarparu a rhoi her annheg i’r rhai sydd yn ein dilyn ar ôl etholiadau mis Mai.
“Rydym wedi paratoi cyllideb gytbwys bob blwyddyn dros y degawd diwethaf, rydym bob amser wedi cyflawni o’i mewn. Mae ein cynigion am eleni yn parhau â’r thema hon. Rydym yn gwneud buddsoddiadau pwysig i gadw eich cymuned yn gryf ar adeg o ansefydlogrwydd cenedlaethol a rhyngwladol,” meddai’r Cyng. Murphy.