Carfan: Alpha
Sefydliad: Cyngor Sir Fynwy
1.Beth oedd yr her gyffredinol?
Mae gwastraff cŵn yn beryglus i iechyd ac i’r amgylchedd ac mae’n achos pwysig o gwyno i Gyngor Sir Fynwy, ond nid yw rheoli a gwaredu’r gwastraff wedi newid fawr ddim ers degawdau. Nod y Swyddog Cysylltiol Infuse, sy’n arwain y gwaith hwn, oedd deall a oes cyfle i gynhyrchu ynni drwy dreuliad anerobig o’r ffrwd wastraff hon sy’n cael ei hesgeuluso.
2. Pa agweddau ar yr her yr ymdriniwyd â hwy yn yr arbrawf (y cwestiwn/cwestiynau ymchwil)?
A yw gwastraff cŵn yn borthiant bio-ynni hyfyw mewn cyd-destun Cymreig?
3. Beth a wnaed i fynd i’r afael â’r her?
Rhoddwyd nifer o feysydd gwaith ar waith i fynd i’r afael â’r her eang hon. Mae’r gwaith mor newydd fel ei bod yn angenrheidiol yn gyntaf i ddeall manteision ynni posibl gwastraff cŵn yn well. Ar ôl sefydlu hyn, cymerwyd camau i archwilio rhai rhwystrau rheoleiddio i’w ddefnyddio a’r defnydd o’r treuliad a grëir fel sgil-gynnyrch y broses dreulio anerobig. Edrychodd y prosiect hefyd ar brosesau cyn-driniaeth neu ôl-driniaeth a allai oresgyn rhwystrau rheoleiddio neu ddiogelwch i ddefnyddio gwastraff cŵn.
Roedd y camau allweddol a gymerwyd fel rhan o’r archwiliad hwn yn cynnwys adolygiad o lenyddiaeth. Nododd yr ymchwil hon enghreifftiau o brosiectau tebyg presennol neu yn y gorffennol gan ddefnyddio gwastraff cŵn a bylchau mewn ymchwil bresennol yr oedd angen ymchwilio ymhellach iddynt. Cynhaliwyd adolygiad rheoleiddio, gan ganolbwyntio ar nodi rheoliadau sy’n ymwneud â thrin, prosesu a chategoreiddio’r treuliad, yn enwedig o ran pathogenau niweidiol. Nodwyd hefyd labordai ymchwil sy’n gallu profi gwastraff cŵn ar gyfer gwerthoedd ynni a thriniaethau cyn neu ar ôl triniaethau y gallai fod eu hangen i reoli pathogenau. Roedd y prosiect hefyd yn ystyried faint a ffynonellau gwastraff cŵn y gellid eu defnyddio er mwyn deall maint y ffynhonnell ynni hon.
Drwy’r broses, mae’r prosiect wedi datblygu dealltwriaeth o’r her, y materion technegol a’r amgylchedd rheoleiddio sy’n ymwneud â threulio anerobig, gwastraff cŵn fel porthiant posibl a graddfa gwastraff cŵn fel her amgylcheddol.
4. Pa agweddau ar Infuse oedd fwyaf defnyddiol wrth fynd i’r afael â’r her?
Roedd meddylfryd addasu wrth wraidd y syniad prosiect hwn. Roedd y swyddog cysylltiol a oedd yn arwain y gwaith yn ymwybodol o’r achos damcaniaethol dros ddefnyddio gwastraff cŵn fel ffynhonnell ynni, ac yn canolbwyntio eu hamser Infuse ar adeiladu rhywfaint o ymchwil gryfach o ran hyfywedd.
Profodd un offeryn, a gyflwynwyd drwy’r Labordy Addasu, yn arbennig o ddefnyddiol ar gyfer y prosiect hwn. Canfu’r swyddog cysylltiol, sy’n rheoli’r prosiect, yr offeryn “theori newid” yn amhrisiadwy wrth helpu i nodi’r cwestiwn ymchwil cywir i ymchwilio o fewn yr amser byr sydd ar gael. Roedd theori newid yn darparu fframwaith i swyddog cysylltiol y prosiect nodi’r mewnbynnau a’r adnoddau allweddol, a’r tasgau a mesurau sydd eu hangen sy’n angenrheidiol i gyflawni’r canlyniad a ddymunir o fewn yr amser a neilltuwyd. Helpodd yr offeryn i’r swyddog cysylltiol dorri’r her i lawr i gamau bach, penodol a chyraeddadwy, gan arwain at arbrawf sydd wedi cynhyrchu allbwn ymchwil cryf iawn, a chais am gyllid i archwilio’r mater ymhellach.
5. Beth oedd y prif wersi a ddaeth o’r cydweithio?
Er mwyn mynd i’r afael â mater mor gymhleth, gyda data ac adnoddau cyfyngedig iawn ar gael, roedd yn hanfodol cydweithio ag arbenigwyr eraill sy’n gweithio yn y maes. Roedd dadansoddi rhanddeiliaid yn helpu i nodi a blaenoriaethu ymgysylltu â’r bobl fwyaf perthnasol. Gan ddefnyddio amser Infuse, llwyddodd y prosiect i gysylltu ag unigolion a sefydliadau allweddol yn y sectorau cyhoeddus, masnachol ac academaidd, a meithrin perthynas ar gyfer cydweithio pellach. Mae’r rhain yn cynnwys Fre Energy Ltd, y cwmni treulio anaerobig a oedd yn gweithio mewn partneriaeth â StreetKleen Ltd, Canolfan Ragoriaeth Cymru ar gyfer Treulio Anaerobig ym Mhrifysgol De Cymru, Adran Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Sir Fynwy, Dŵr Cymru, Cynelau Preswyl Brynbuga.
6. Canfyddiadau allweddol
Cynhyrchodd yr arbrawf rai canfyddiadau defnyddiol. Nid yw’r pwnc yn cael ei ymchwilio’n dda, ac roedd yn anodd dod o hyd i ddata o ansawdd da. Canfu’r ymchwil hefyd fod y fframwaith rheoleiddio yn y maes hwn yn gymhleth, gyda gofynion gwahanol wedi’u nodi gan nifer o asiantaethau a diffyg gwybodaeth allweddol yn ymwneud â’r pwnc am nad yw wedi’i brofi. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y fframwaith rheoleiddio presennol yn galluogi defnyddio gwastraff cŵn fel porthiant ond mae angen eglurhad pellach gan y rheolyddion, yn enwedig ym maes rheoli pathogenau yn y treuliad.
Yn hollbwysig, canfu’r arbrawf ei bod yn dechnegol ymarferol prosesu gwastraff cŵn gan ddefnyddio treuliad anerobig i gynhyrchu ynni adnewyddadwy, er bod cynnyrch nwy yn isel, ond gallai cyd-dreulio â gwastraff organig arall fel toriadau glaswellt wella cynnyrch nwy a sefydlogrwydd y gymuned ficrobaidd yn y treuliwr.
Canfu’r arbrawf hefyd fod cyfleoedd i gasglu mwy o wastraff cŵn, er enghraifft o gytiau cŵn, milfeddygon a gwasanaethau cŵn proffesiynol eraill yn ogystal â chynyddu’r casgliad o finiau stryd a hyd yn oed aelwydydd preifat. O ran hyn, mae angen ymchwilio i’r gwaith o ddadbacio gwastraff cŵn mewn gwaith yn y dyfodol ar y pwnc.
7. Y camau nesaf
Drwy’r broses o ymchwilio i’r cwestiwn ymchwil, tynnwyd sylw at dri maes diddordeb ychwanegol:
· Cyd-dreulio gwastraff cŵn gyda phorthiant arall i wella cynnyrch nwy.
· Rheoli gwastraff cŵn drwy gyfleusterau trin dŵr carthffosiaeth/gwastraff presen
· Gallai Pyrolysis fod yn ynni amgen o broses trin gwastraff sy’n addas ar gyfer trin gwastraff cŵn gyda Biosiarcol fel sgil-gynnyrch amgylcheddol positif ychwanegol.
Ceisir cyllid hefyd i ymchwilio ymhellach i hyfywedd gwastraff cŵn fel ffynhonnell ynni.