Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio arolwg yn gofyn am sylwadau ar sut yr hoffai preswylwyr ddefnyddio llwybrau a mynedfeydd presennol ar gyfer Dolydd y Castell yn y Fenni.
Lansiwyd cynlluniau sy’n cynnig gwelliannau i’r llwybrau cerdded a seiclo presennol ar draws Dolydd y Castell. Mae hyn yn cynnwys rhoi wyneb newydd a lledu llwybrau presennol ar draws Dolydd y Castell i 3m o led, fel eu bod yn llwybrau cerdded/seiclo sy’n cydymffurfio â gofynion Teithio Llesol. Mae’r cynigion hefyd yn cynnwys gosod pont droed newydd yn lle’r un bresennol dros yr Afon Gafenni, gyda phont newydd sy’n cydymffurfio â Theithio Llesol i’w rhannu rhwng cerddwyr/seiclwyr. Mae’r cynnig hwn yn gydnaws â chynllun Teithio Llesol ehangach y Fenni, yn cynnwys pont newydd ar draws yr Afon Wysg a chysylltiadau cymunedol i Lan-ffwyst a thu hwnt, gan roi rhwydwaith cydlynol o lwybrau ar draws yr ardal. Mae’r cynigion hyn ar gael ar wefan y Cyngor: Dolydd y Castell, Y Fenni – Y Cynigion – Sir Fynwy
Caiff pob un o’r llwybrau newydd a gynigir, yn cynnwys y pontydd ar eu newydd wedd, eu goleuo’n llawn gan oleuadau lefel isel. Yn ychwanegol, cynigir uwchraddio’r clwydi presennol wrth fynedfa/allanfa Dolydd y Castell i’w gwneud yn fwy hygyrch i bob defnyddiwr. Bydd y clwydi hyn yn ei gwneud yn bosibl cadw’r gwartheg o fewn Dolydd y Castell. Mae bioamrywiaeth a sensitifrwydd ecolegol Dolydd y Castell yn ffactor allweddol wrth reoli’r safle a bydd yn parhau felly. Mae’r rhaglen Teithio Llesol yn cymryd y materion hyn yn ddifrifol iawn a bydd yn anelu i ychwanegu budd i fioamrywiaeth y safle fel rhan o’r cynllun.
Mae Teithio Llesol yn parhau’n flaenoriaeth allweddol i Gyngor Sir Fynwy yn yr ymateb i Newid Hinsawdd ac yn unol â hierarchiaeth trafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Diben Teithio Llesol yw darparu rhwydwaith o lwybrau, gan ganolbwyntio i ddechrau ar saith lleoliad dynodedig y Cyngor, i roi cyfleoedd i newid teithiau car byrrach ar gyfer dulliau mwy llesol o drafnidiaeth, tebyg i gerdded a seiclo.
Dywedodd y Cyng. Jane Pratt, aelod cabinet dros Seilwaith Cyngor Sir Fynwy: “Rydym eisiau i gynifer o breswylwyr ag sydd modd i gymryd rhan yn yr arolwg fel y gallwn lunio hygyrchedd y sir yn y ffordd orau bosibl. Mae’n bwysig tu hwnt y gall preswylwyr rannu eu barn a’u sylwadau.”
Ychwanegodd y Cyng. Lisa Dymock, Aelod Cabinet dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol: “Ar hyn o bryd nid yw’r llwybrau presennol ar draws Dolydd y Castell yn cydymffurfio gyda safonau presennol Teithio Llesol ac nid ydynt yn darparu ar gyfer pob defnyddiwr, yn arbennig rai gyda nam ar eu symudedd. Bydd y penderfyniadau hyn yn effeithio ar y rhai sy’n defnyddio’r caeau yn rheolaidd, felly mae adborth preswylwyr yn werthfawr tu hwnt.”
Mae’r arolwg yn gofyn cwestiynau cyffredinol am y ffordd mae preswylwyr yn teithio i’r ardal fel arfer, gan ofyn am eu profiadau yn defnyddio dolydd y Castell a Chaeau Ysbyty. Gellir llenwi’r arolwg ar-lein yma: Microsoft Forms (office.com). Bydd yr arolwg yn cau ar 25 Mawrth.