Ysgol Gyfun Cil-y-coed
Mae’r amgylchedd dysgu £36.5m yn cynnwys cyfuniad o ardaloedd ar arddull theatr, neuadd fawr a gofodau stiwdio i astudio’n anffurfiol, ynghyd ag ystafelloedd naturiol gyda golau naturiol ac ardaloedd tawelach i bobl ifanc eu mwynhau. Mae technoleg ddigidol 21ain ganrif ym mhob rhan o’r ysgol newydd yn cynnwys taflunwyr safon sinema a gyfrannwyd gan arbenigwyr clywedol Ricoh mewn gofodau arddull theatr a thechnoleg ryngweithiol i athrawon rannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a myfyrwyr.
Mae’r gofod effeithiol o ran ynni yn cynnwys technoleg hunan-oeri mewn tywydd twym gyda rhyddhau gwres i ostwng yr angen am wresogi traddodiadol. Cynyddir golau naturiol ym mhob rhan gyda goleuadau awtomatig i arbed trydan.
Cafodd yr ysgol ei hadeiladu gan bobl leol – gyda 70% o’r adeiladwyr, trydanwyr, plymwyr a pheirianwyr ar y safle yn byw yn yr ardal, yn cynnwys rhai cyn ddisgyblion. Dysgodd llawer o brentisiaid sgiliau ar y safle ac mae myfyrwyr profiad gwaith wedi cyfrannu at y prosiect i roi cyfleoedd swyddi yn y dyfodol. Mae Interserve mewn cysylltiad gyda’r cyngor sir a chynllun rhannu prentisiaeth Y Prentis sy’n gweithredu yn ne ddwyrain Cymru wedi rhagori gan 200% ar y targed ar gyfer buddion cymunedol y prosiect.
Adeiladu Ysgol Cil-y-coed:
Ysgol Gyfun Trefynwy
Cafodd disgyblion yn Nhrefnwyr eu croesawu i’w hysgol 21ain Ganrif newydd ddydd Llun 17 Medi 2018. Dechreuodd myfyrwyr a staff ar y flwyddyn academaidd yn eu ysgol newydd o’r math diweddaraf. Mae Cyngor Sir Fynwy mewn cysylltiad gyda phartneriaid yn Interserve, y grŵp gwasanaethau cefnogaeth ac adeiladu rhyngwladol, a Llywodraeth Cymru wedi sicrhau amgylchedd dysgu newydd gwych ar gyfer disgyblion a staff. Bydd gofodau braf yn ysbrydoli ac yn gwella profiadau dysgu.
Mae’r amgylchedd dysgu £40m yn cynnwys cyfuniad o ardaloedd arddull theatr, neuadd fawr a gofodau stiwdio i astudio’n anffurfiol, ynghyd ag ystafelloedd dosbarth gyda golau naturiol ac amrywiaeth o ofodau hamdden i bobl ifanc eu mwynhau. Defnyddir technoleg ddigidol 21ain ganrif ym mhob rhan o’r adeilad sy’n cynnwys taflunwyr ansawdd sinema a’r offer addysgu rhyngweithiol diweddaraf ar gyfer athrawon a myfyrwyr.
Croeso i ysgol gyfun newydd a gwell Trefynwy:
Gwedd newydd Ysgol Gyfun Trefynwy:
Ysgol Gynradd a Reolir yn Wirfoddol Eglwys yng Nghymru Rhaglan
Dechreuodd y prif gontract dylunio ac adeiladu ym mis Hydref 2013 gyda Morgan Sindall Cyf o Gaerdydd wedi eu penodi yn brif gontractwr. Roedd safle’r ysgol newydd yn gyfuniad o’r hen ysgol gynradd a safle tir llwyd lle arferai fod yn fferm. Roedd y ddau safle wedi eu rhannu gan nant ac roedd angen llwybr troed cyhoeddus i alluogi adeiladu’r ysgol.
Roedd cyfnod cyntaf y contract (a gwblhawyd ym mis Mehefin 2015) i ddarparu’r adeilad ysgol newydd ynghyd â mynediad i gerddwyr a staff, ac ardaloedd chwarae a thirlun cysylltiedig. Roedd yr ail gam yn cynnwys dymchwel adeilad yr hen ysgol babanod, darparu ardaloedd gollwng ar gyfer yr ysgol a maes parcio cymunedol ar gyfer defnydd yr ysgol a phentref Rhaglan.
Caiff y ddau safle eu cysylltu gyda phontydd troed i gerddwyr dros y nant ac mae’r llwybr troed cyhoeddus yn mynd o amgylch terfyn allanol yr ysgol.
Bydd cynnwys celloedd ffoto-foltaig, casglu dŵr glaw, gwres biomas a lefelau uchel o insiwleiddiad yn darparu adeilad effeithol o ran ynni, a bydd adeiladu’r ysgol yn cyrraedd graddiad Rhagorol BREEAM gyda graddiad EPC o A+.