Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i sicrhau perfformiad gwell mewn darpariaeth addysgol yn unol â gofynion polisi ac amcanion Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor yn ymgymryd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc. Byddwn yn buddsoddi yn nysgu a datblygiad ein holl blant, gan sicrhau fod ganddynt yr amgylcheddau, sgiliau a’r gefnogaeth i ffynnu a bod yn barod i weithio ar gyfer y dyfodol.  Mae hyn yn bwysig er mwyn i blant a phobl ifanc fod yn barod ar gyfer diwydiant, yn medru cyfrannu’n lleol ac yn fyd-eang ac ateb gofynion byd sy’n newid yn gyflym.

Mae’r Rhaglen Ysgolion Cynaliadwy yn gydnaws gyda nodau ac amcanion polisi lleol a chynaliadwy. Diben strategol Sir Fynwy yw creu ‘cymunedau cynaliadwy a chryf’, sydd yn hollol gydnaws gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn neilltuol, mae’n cysylltu gyda:

Cymru lewyrchus – Drwy greu poblogaeth fedrus ac addysgedig

Cymru gydnerth – Drwy integreiddio technolegau adnewyddadwy ac adeiladau cynaliadwy byddwn yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd

Cymru sy’n fwy cyfartal – Wedi’i lleoli yn ardal fwyaf amddifadus Sir Fynwy ac yn flaenorol yn ardal Cymunedau yn Gyntaf, bydd yr ysgol yn galluogi cyfuno gwaith i fynd i’r afael â’r heriau economaidd-gymdeithasol yn yr ardal

Cymru o gymunedau cydlynus – Drwy integreiddio cymunedau yn y dref yn well a hyrwyddo lle diogel i bawb

Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – Rhan allweddol o’r cynnig yw symud Ysgol Gynradd Gymraeg y Fenni i safle mwy i’w galluogi i dyfu a datblygu.

Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Wrth ddarparu addysg ragorol mewn lleoliad cynaliadwy a chydlynol, bydd yr ysgol yn paratoi myfyrwyr i gydnabod eu rhan lawn yn y byd.

Mae’r Rhaglen Ysgolion Cynaliadwy yn gynllun ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru i greu’r ysgolion cywir yn y lleoedd cywir. Prif flaenoriaethau Cyngor Sir Fynwy ar gyfer y rhaglen buddsoddi yw:

  • Trawsnewid y ddarpariaeth addysg ledled y Sir
  • Codi safonau cyflawniad ac uchelgais i bawb
  • Darparu sefydliadau dysgu 21ain Ganrif
  • Codi cyfleoedd bywyd ar gyfer pawb o fewn y gymuned
  • Darparu cynnig addysgol effeithiol, effeithlon ac a gaiff ei reoli’n dda sy’n hygyrch i bawb
  • Denu gweithlu ansawdd uchel i arwain a gweithio yn ein hysgolion

Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes mewn amgylchedd sy’n addas ar gyfer dysgu 21ain Ganrif, gan sicrhau fod gan blant a phobl ifanc fynediad i ddarpariaeth ddysgu fodern fydd yn codi safonau addysgol ar gyfer pob dysgwr.

Bydd y Cyngor, fel rhan o’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y rhaglen Ysgolion Cynaliadwy, yn coleddu’r newid ar draws yr awdurdod mewn dysgu ac addysgu. Bydd dull trawsnewidiol i ad-drefnu ac ailddatblygu yr holl stad ysgolion yn deillio o’r newid hwn.

Dros flynyddoedd diweddar, gwnaed cynnydd i drawsnewid addysg yn Sir Fynwy. Er enghraifft:

  • Gwella mynediad a lleoedd ysgol
  • Gostwng nifer lleoedd gwag
  • Datblygu dysgu Ôl 16 effeithlon
  • Gwella presenoldeb mewn ysgolion
  • Cynlluniau i godi safonau mewn llythrennedd a rhifedd
  • Adolygu Anghenion Dysgu Ychwanegol a’u diwallu ar y pwynt angen a lleoliad

Amcanion y Prosiect

Amcan craidd y prosiect yw darparu ysgol newydd 3-19 oed ar safle Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn cynnwys:

Cyfnodau Allweddol

CyfnodGrŵp Blwyddyn
Dechrau’n DegPlant 0-3
Cyfnod SylfaenMeithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2
CynraddBlynyddoedd 3 a 4
CanolraddBlynyddoedd 5, 6, 7 a 8
Cyfnod Allweddol 4Blynyddoedd 9, 10 a 11
Cyfnod Allweddol 5Blynyddoedd 12 a 13

Darperir Canolfan Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) gyda 71 lle (16 cynradd a 55 uwchradd). Bydd y Ganolfan SEBD yn darparu ar gyfer disgyblion gydag anghenion niwroddatblygiadol cymhleth.

Caiff adeilad blaenorol Ysgol Gynradd Deri View ei ailwampio ar gyfer Ysgol Gymraeg y Fenni sydd wedi gordyfu eu hadeilad presennol. Bydd hyn yn cynorthwyo i ddatblygu darpariaeth Gymraeg yng ngogledd Sir Fynwy.

Yn unol ag ymrwymiadau Sir Fynwy ar argyfwng hinsawdd, bydd yr adeilad yn net sero carbon gyda defnydd isel o ynni mewn adeiladu a defnydd ac yn anelu i sicrhau graddiad A mewn EPC gyda ffocws ar ostwng yn sylweddol y pwysau ar gyllidebau cynnal a chadw wedi’i gynllunio ac ymatebol yn y dyfodol.

Nod y prosiect yw creu adeilad wedi’i gynllunio’n dda, effeithlon o ran cost, gwydn iawn, cynnal a chadw isel ac addas i’r diben a fwriadwyd. Mae’r cynigion yn anelu i gynyddu i’r eithaf –

  • hyblygrwydd mewn defnydd
  • y gallu i addasu yn y dyfodol
  • effeithiolrwydd mewn gwaith adeiladu
  • gwerth gorau am gost adeiladu cyfalaf
  • effeithiolrwydd mewn adeiladu
  • ynni isel a carbon isel
  • datrysiadau dylunio integredig sy’n manteisio i’r eithaf ar olau dydd naturiol ac awyriant naturiol tra’n ymgorffori adnoddau effeithiol o ran ynni.

Gan y bydd y safle yn parhau yn gweithredu fel ysgol drwy gydol y cyfnod adeiladu, mae’n hanfodol y gellir cyflawni’r prosiect mewn amgylchedd gwaith diogel ar gyfer staff ysgol a staff adeiladu fel ei gilydd.

Lle bo angen, bydd y gwaith yn cynnwys uwchraddio priffyrdd, gwasanaethau a seilwaith draeniad.

Gwerthoedd

Rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl a busnesau lleol. I’n helpu i gyflawni hyn rydym wedi gosod amcanion a thargedau, gan roi ystyriaeth i’r pethau sy’n bwysig i bobl.

“Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol a hefyd genedlaethau’r dyfodol. Mae’r weledigaeth hon yn greiddiol i bopeth a wnawn i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy.”

Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Fynwy

Dilynwch ni ar Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.