Ddoe (17 Chwefror), gwnaeth Datgloi 5G Cymru — prosiect arloesi sy’n dangos y cyfleoedd ar gyfer 5G yng nghymunedau gwledig a chymunedau’r cymoedd yng Nghymru — lansio gwasanaeth 5G sy’n cwmpasu Castell Rhaglan (Cadw) yn Sir Fynwy.
Dyma fydd un o’r treialon 5G byw cyntaf yng nghefn gwlad Cymru. Bydd y rhwydwaith, a ddarperir gan BT, yn pweru cyfres o brosiectau cyffrous ledled Sir Fynwy a Blaenau Gwent — gan ddangos y potensial sydd gan 5G i drawsnewid busnesau a gwasanaethau cefn gwlad ar draws y sectorau twristiaeth, addysg, trafnidiaeth a ffermio.
Yng Nghastell Rhaglan, bydd y rhwydwaith 5G yn dod â hanes Cymru’n fyw gyda phrofiad Realiti Estynedig (AR) — a grëwyd gan un o bartneriaid Datgloi 5G Cymru, Jam Creative Studios. Gall ymwelwyr nawr gasglu dyfais o’r Ganolfan Ymwelwyr er mwyn ymdrochi yn hanes y castell.
Wrth iddyn nhw archwilio’r castell, gall ymwelwyr: weld y castell fel y byddai wedi edrych cyn iddo gael ei ddifetha yn y Rhyfel Cartref; esgus bod yn un o filwyr y Senedd — gan danio’r gynau mawr tuag at amddiffynfeydd y castell yn ystod Gwarchae Rhaglan; cymryd rhan mewn gêm rithwir o fowls gyda’r Brenin Siarl I ar y llain fowlio — gan ail-greu digwyddiad hanesyddol a ddigwyddodd yn 1645, a gweld y Ffynnon y Llys hardd wedi’i hail-greu o’u cwmpas.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden AS: “Mae cefnogi twristiaeth a’r celfyddydau yng Nghymru yn ymrwymiad allweddol yn ein Rhaglen Lywodraethu, ac mae’n rhan annatod o wneud ein dinasoedd, ein trefi a’n pentrefi yn lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddynt.
“Mae’r prosiect cyffrous hwn yn dangos potensial technolegau newydd i wneud Cymru’n genedl sydd wedi’i chysylltu’n well ac i greu cyfleoedd cynhwysol i bobl fwynhau a chadw ein hanes cyfoethog.”
Dywedodd David Penberthy, Pennaeth Dehongli Cadw: “Mae Castell Rhaglen yn safle boblogaidd iawn sydd â phwysigrwydd hanesyddol sylweddol, ac rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Datgloi 5G Cymru i ddod o hyd i ffyrdd newydd i ymwelwyr ymwneud â’i hanes diddorol.
“Rydyn ni’n disgwyl i’r gemau fod yn hynod boblogaidd, ac yn gwahodd ymwelwyr o bob oed – rhai hen a newydd – i ddod i’w profi eu hunain.”
Dywedodd Libby Warwick, Uwch Gynhyrchydd Jam Creative Studios: “Rydyn edrych ymlaen at lansio’r gemau AR newydd hyn gyda manteision rhwydwaith 5G. Mae’r cysylltedd 5G yn ein galluogi i greu profiadau ymdrochi hyd yn oed yn fwy cyffrous mewn safleoedd treftadaeth gwledig — a chreu cynnwys rhithwir mwyfwy manwl, wedi’i osod yn gywir yn yr amgylchedd i ymwelwyr ei archwilio a rhyngweithio ag ef.”
Dywedodd Nick Speed, Cyfarwyddwr Grŵp BT yng Nghymru: “Mae 5G yn gam hollbwysig yn y gwaith o baratoi ar gyfer twf enfawr yn y galw am raglenni band llydan, megis ffrydio cynnwys 4K diffiniad uchel, realiti estynedig a rhithwir, a fideo-gynadledda o ansawdd uchel.
“Mae hwn yn gyfle arloesol i ddangos potensial 5G mewn lleoliad gwledig. Mae twristiaeth yn sector pwysig i Gymru, felly mae hefyd yn gyfle go iawn i archwilio sut y gellid defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf hon i arloesi a gwella’r arlwy i ymwelwyr. Mae gan dechnoleg glyfar fel hon y potensial i helpu economïau gwledig i dyfu ac annog pobl ifanc i aros yn yr ardaloedd hyn.”
Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “I siroedd gwledig fel Sir Fynwy, bydd mwy o gysylltedd yn helpu cymunedau a busnesau lleol. O safbwynt busnesau gwledig, rwyf wedi bod yn siarad â ffermwyr lleol sy’n disgrifio sut y gallai 5G drawsnewid eu busnesau.
“Mae’r ateb arloesol sydd wedi’i osod yng Nghastell Rhaglan yn aruthrol — caiff pobl leol ac ymwelwyr eu hysbrydoli gan y dechnoleg hon sy’n dod â’r lle hardd, hanesyddol hwn yn fyw. I addysg, mae’r cyfleoedd i ysbrydoli dychymyg dysgwyr yn wych. Mae yna botensial i gyflwyno prosiectau fel hyn, sy’n archwilio’r manteision i gymunedau gwledig, ledled y wlad. Rwy’n falch o rôl Sir Fynwy yn hyn o beth.”
Fel heneb gofrestredig, mae Castell Rhaglan yn wynebu heriau diogelwch a chadwraeth posibl — ac mae un o bartneriaid Datgloi 5G Cymru, UtterBerry, wedi datblygu a gosod rhwydwaith o synwyryddion clyfar ar hyd y safle i helpu i fynd i’r afael â’r heriau hyn.
Mae’r synwyryddion yn canfod ac yn monitro newidiadau mewn ffactorau fel symudiad y tir, uniondeb strwythurol yn nhyrau’r castell, tymheredd, lleithder, cyflymder y gwynt a lefelau tanciau gwastraff— data a fydd yn helpu Cadw i ddatblygu dealltwriaeth fanwl o’r peryglon er mwyn eu hatal a’u lleihau ac i gadw’r safle am genedlaethau i ddod.
Dywedodd Heba Bevan OBE, Prif Weithredwr UtterBerry: “Fel safle sy’n agored i’r elfennau, mae Castell Rhaglan yn destun dirywiad amgylcheddol, gyda ffactorau’n cynnwys gwynt, glaw, eira, bywyd gwyllt a’r tir yn symud.
“Rydyn ni felly’n cydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a DCMS i ddarparu data cyfoethog a helaeth i Cadw sy’n rhoi llawer mwy o ddealltwriaeth o’r safle ac sy’n caniatáu iddyn nhw gymryd camau cadwraeth – bydd pob un yn bosibl yn awr diolch i’r ffaith bod gan Gastell Rhaglan gysylltedd llawn â 5G.”
Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag ymweld â Chastell Rhaglan, ewch i wefan Cadw neu ffoniwch 03000 252239.
Mae Datgloi 5G Cymru yn bosibl diolch i gyllid gan Raglen y Cymoedd Technoleg (Llywodraeth Cymru) a’r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.