Mae Storm Eunice wedi cael effaith ar draws Sir Fynwy. Roedd mwy na 1,000 o gartrefi yn Sir Fynwy heb drydan ac anogwyd trigolion i ofyn i Western Power am wybodaeth.
Roedd Pont y Tywysog Cymru ar yr M4 a Phont Hafren yr M48 wedi eu cau yn sgil y gwyntoedd cryfion. Mae Pont y Tywysog Cymru ar yr M4 nawr wedi ail-agor.
Mae criwiau Sir Fynwy wedi bod yn gweithio ar hyd a lled y sir drwy’r dydd yn clirio mwy na 50 o goed a oedd wedi disgyn ar yr heolydd.
Roedd gofalwyr cartref wedi mynd i bob un o’r cartrefi ac roedd gwasanaeth prydau bwyd
Sir Fynwy wedi darparu prydau bwyd i’r holl gartrefi fel y bwriadwyd.
Roedd y ganolfan gyswllt wedi derbyn mwy na 300 o alwadau i gefnogi pobl drwy’r dydd ac wedi ymateb i ymholiadau drwy gyfrwng y Sgwrsfot. Roedd yna ddiweddariadau wedi eu rhannu ar sianeli cyfryngau cymdeithasol @MonmouthshireCC drwy’r dydd.
Bydd timau yn gweithio dros nos yn graenu’r heolydd wrth i’r tymheredd ddisgyn ac mae yna beryg o eira, iâ ac amodau gyrru anodd – mae disgwyl bod ambell gentimedr o eira yng Ngogledd-orllewin y sir dros nos.
Dylai unrhyw drigolion a oedd yn disgwyl bod gwastraff cartrefi ac ailgylchu yn cael eu casglu ar ddydd Gwener 18fed sicrhau bod pob dim allan yn barod i’w gasglu erbyn 7am ar ddydd Sadwrn 19eg Chwefror a bydd y timau yn ceisio casglu popeth cyn gynted ag sydd yn bosib.
Mae yna gynlluniau ar waith i sicrhau bod gwasanaethau yn ail-ddechrau yfory:
- Bydd yr holl Ganolfannau Hamdden yn agor fory. Mae holl atyniadau MonLife hefyd yn bwriadu agor.
- Bydd yr holl wasanaethau llyfrgell ar gael fel arfer yfory a bydd staff yn medru helpu gydag ymholiadau yn yr hybiau. Bydd swyddfa bost Brynbuga ar agor hefyd.
- Bydd yr holl wasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn parhau i gael eu darparu yfory, a hynny ar ben y cymorth ychwanegol a ddarparwyd heddiw.
- Bydd y prydau bwyd cymunedol yn cael eu darparu yfory.
- Dylai’r gwasanaeth bysiau fod ar gael fel arfer.
Bydd timau ar alw drwy’r penwythnos yn monitro’r glaw ac unrhyw rybuddion llifogydd sydd dal yn berthnasol ar yr Afon Gwy a’r Afon Wysg.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyngh. Richard John: “Hoffem ddiolch i bawb yn Sir Fynwy sydd wedi osgoi teithio heddiw – mae’r amodau dal yn heriol, ac felly, mae’n beth doeth i osgoi unrhyw siwrnai ddianghenraid. Diolch o galon i gydweithwyr sydd wedi bod yn gweithio ddydd a nos er mwyn cadw pawb yn ddiogel a’n sicrhau bod cynifer o wasanaethau yn ail-ddechrau yfory. Rwy’n falch iawn gyda sut y mae cydweithwyr a thrigolion wedi delio gyda’r storm fwyaf yr ydym wedi gweld mewn degawdau.”