Dewisodd cwpwl newydd o Drefynwy ffordd anghonfensiynol ond ecogyfeillgar o gyrraedd eu priodas, gan ddewis ricsio treic o’r Bridges Centre. Gan eu bod yn gefnogwyr y Bridges Centre, roedd Lisa a Lee James, y pâr priod, am ddefnyddio a chefnogi busnesau lleol gymaint â phosibl ar gyfer eu diwrnod mawr. Ar ôl darganfod nad oedd unrhyw logi car priodas yn Nhrefynwy, aeth Lisa a Lee i’r Bridges Centre i drefnu cludiant ar gyfer eu diwrnod arbennig.
Mae’r ricsios treic yn rhan o’r cynllun Beicio Heb Oedran gan elusen annibynnol o Drefynwy, y Bridges Centre, a’i nod erioed oedd gwella lles y gymuned leol. Mae’r prosiect fel arfer yn cynnig cyfle i bobl hŷn neu bobl sydd â nam ar symudedd fynd allan o Drefynwy ar ricsio treic. Fodd bynnag, y tro hwn, defnyddiwyd y ricsio treic i gael y briodferch i’w phriodas ar amser.
Dywedodd y briodferch, Lisa James: “Rydw i wedi bod yn gefnogwr Bridges a’r gwaith gwych maen nhw’n ei wneud. Fe wnes i hyd yn oed gwblhau marathon Llundain yn 2015 i godi arian ar gyfer y ganolfan. I mi, pa ffordd well o gyrraedd fy mhriodas na mewn ricsio treic, lle gallwn hefyd gefnogi elusen leol yn agos at fy nghalon ar yr un pryd.”
Roedd cefnogwyr a ffrindiau eraill o’r grŵp rhedeg lleol “Rock up and Run” yng nghwmni Lisa wrth i’r cymdeithion, a oedd yn seinio clychau, feicio drwy strydoedd Trefynwy. Cynigiodd peilot Lisa, Simon Jones, sydd eisoes yn wirfoddolwr Beicio Heb Oed, ei wasanaethau ar gyfer priodas Lisa a Lee. Gyda chlychau beiciau a chlychau’r briodas yn seinio, aeth y grŵp i fyny’r stryd fawr gyda Lisa wrth iddi gario ei thusw, gyda’r rhai oedd yn cerdded heibio yn chwifio a gwenu wrth i’r cymdeithion feicio heibio.
Meddai Marianne Piper, Arweinydd Tîm a Chydlynydd Gwirfoddolwyr y Bridges Centre: “Roeddem wrth ein bodd i Lisa ddod atom yn gofyn a allai ddefnyddio’r ricsio treic i gyrraedd ei phriodas. Mae Lisa wedi bod yn gefnogwr hir dymor i Elusen y Bridges Centre, mae hi hefyd yn ffrind agos i ŵr oedrannus sydd wedi defnyddio’r ricsio treic yn ddiweddar i ddod allan o’i fflat am y tro cyntaf ers cwpl o flynyddoedd.”
Sefydlwyd y cynllun Beicio Heb Oedran yn wreiddiol yn Nenmarc i alluogi pobl nad oeddent yn gallu cael beic traddodiadol i fynd allan o’u cartrefi, cwrdd â phobl newydd, gweld lleoedd newydd ac yn bwysicaf oll, cael hwyl a mwynhau eu hunain. Mae reidiau bob amser yn rhad ac am ddim ac mae’r beiciau’n cael eu gyrru gan wirfoddolwyr.
Parhaodd Marianne Piper: “Bob wythnos rydym yn cymryd allan myfyrwyr o Uned Adnoddau Anghenion Arbennig Ysgol Gynradd Overmonnow, sy’n un o uchafbwyntiau ein hwythnos. Rydym yn cael gweld plant yn cael cyfle i brofi teimlo’r gwynt yn eu gwallt, chwerthin wrth i ni reidio dros dwmpathau cyflymder a gweld rhannau o Drefynwy nad oedden nhw wedi’u gweld o’r blaen.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, y Cynghorydd Penny Jones: “Mae’n hyfryd gweld pobl mor wych yn cefnogi achos mor dda yn Sir Fynwy. Mae’r Bridges Centre yn ased annatod i gymuned Trefynwy, yn galon i’r gymuned. Hoffwn longyfarch y cwpwl hapus, Lisa a Lee, a dymuno bywyd hapus ac iach iddynt gyda’i gilydd.”
Yn ddiweddar, mae’r Bridges Centred wedi darparu mwy o dreiciau ricsio i gynnig teithiau yng Nghil-y-coed a Llan-ffwyst. Mae’r elusen bob amser yn chwilio am dîm o wirfoddolwyr cynnes a chyfeillgar dros 18 oed i fod yn ‘beilotiaid’ a ‘chyd-beilotiaid’ gyda lefel sylfaenol o ffitrwydd, er bod y beiciau’n cael eu pweru gan fatris i helpu llywio drwy strydoedd Sir Fynwy. Os ydych yn meddwl yr hoffech chi gymryd rhan fel peilot/cyd-beilot teithwyr neu wirfoddolwyr, yna dywedwch “Gwnaf” ac e-bostiwch wellbeing@bridgescentre.org.uk neu ffoniwch 07980 941946 am fwy o wybodaeth.