Skip to Main Content

Gyda thristwch mawr rydym yn rhoi gwybod i chi am farwolaeth y Cynghorydd Sirol Peter Clarke. Gadawodd Peter ni’n heddychlon ar 10fed Ionawr.

Roedd Peter yn gawr yn ein sefydliad ar ôl cynrychioli Cyngor Sir Fynwy ers ei ddechrau yn 1996. Etholwyd Peter i swydd gyhoeddus am y tro cyntaf ym 1989 yn cynrychioli Ward Wledig Brynbuga ar Gyngor Gwent. Peter oedd ein cadeirydd ddwywaith, un o sylfeini’r Pwyllgor Cynllunio a bu’n gwasanaethu ar lawer o bwyllgorau eraill. Roedd Peter hefyd yn gynghorydd cymunedol am dros 35 mlynedd.

Roedd Peter yn esiampl i bob un ohonom o’r hyn a oedd i fod yn was cyhoeddus eithriadol. Roedd ganddo safonau uchel a disgwyliadau uchel. Roedd bob amser am gael y gorau i’r bobl yr oedd yn eu cynrychioli.

Roedd yn ddyn caredig a chynnes iawn a oedd yn gwerthfawrogi ei ffrindiau a’i deulu yn anad dim, roedd Peter hefyd yn ddyn busnes llwyddiannus iawn ac yn un o bileri cymuned Brynbuga a’r ardaloedd cyfagos.

Mae golau disglair iawn wedi diffodd o’n bywydau a bydd Peter yn cael ei golli’n fawr. Anfonwn ein cydymdeimlad at deulu Peter ac anwyliaid, a fydd yn ein meddyliau’n fawr iawn.

Cliciwch yma os hoffech rannu eich atgofion am Peter: https://forms.office.com/