Mae pob llyfrgell yn cynnig mynediad i’r rhyngrwyd yn rhad ac am ddim i aelodau llyfrgell i weld:
- cofnodion cyfrifiadau lleol a chenedlaethol
- papurau newydd Prydeinig o’r 19eg Ganrif
- archif digidol The Times 1785-1985
- geiriadur bywgraffiaduron cenedlaethol
- Ancestry a Find My Past (dim ond ar gael o’r tu mewn i’r llyfrgell)
Mae dewis eang o lyfrau ar hanes teulu a hanes lleol ac ymchwilio eich coeden deulu.
Mae llyfrgelloedd y Fenni, Cil-y-coed, Cas-gwent a Threfynwy hefyd yn cynnig cymorth gydag ymchwil hanes teulu. Edrychwch ar eich calendr i gael dyddiadau.
Mae gan bob llyfrgell gasgliadau o ddeunydd ar eu hardaloedd ac ar Sir Fynwy gyfan. Yn Llyfrgell Cas-gwent mae Casgliad Cas-gwent, adnodd diddorol tu hwnt o 458 cyfrol a gyflwynwyd i’r llyfrgell gan Ivor Waters ar ran Cymdeithas Cas-gwent.
Mae casgliadau helaeth o lyfrau a deunydd arall ar eu hardaloedd lleol ym mhob un o’r amgueddfeydd yn Sir Fynwy.
Mae Cymdeithas Hanes Teulu Gwent yn cynnal desg gymorth yn Llyfrgell Cas-gwent ar ail ddydd Iau pob mis ac yng Nghil-y-coed ar ddydd Iau cyntaf y mis.
Dolenni defnyddiol eraill: