Mae gostyngiadau ar gael o dan rai amgylchiadau.
Disgownt Ymadawyr Gofal
Cytunodd y Cyngor yn ddiweddar i gynorthwyo ymadawyr gofal rhwng 18 a 25 oed sy’n preswylio yn ardal Sir Fynwy ac sy’n atebol am dalu treth gyngor. Mae disgownt hyd at 100% ar gael i ostwng y ffioedd a godir o 1 Ebrill 2018. Nid yw hawl yn ddibynnol ar incwm. Os ydych wedi gadael y system gofal yn yr awdurdod lleol hwn neu unrhyw awdurdod arall, cysylltwch â’r Adran Refeniw i gael mwy o wybodaeth/cyngor. Manylion pellach islaw.
Gostyngiad Meddiannaeth Unigol
Os un oedolyn (dros 18 oed) yn unig sydd yn byw yn y cartref a hwnnw yw ei unig neu ei brif breswylfa derbynnir gostyngiad o 25%.
Cynhelir adolygiadau i gadarnhau bod yn dal i fod gennych chi hawl i dderbyn y gostyngiad hwn. Ar hyn o bryd y mae’r Cyngor yn gweithio ag asiantaethau cyfeirnod credyd i wirio’r hawliadau fel rhan o ymgyrch yn erbyn twyll Treth y Cyngor. Dylai pobl sydd, efallai, yn hawlio yn anghywir neu’n ansicr o ran a oes modd iddynt dderbyn gostyngiad gysylltu â Chyngor Sir Fynwy.
Mae rhestr lawn o ostyngiadau eraill ar gael ar gais. Mae’r rhain yn berthnasol ar gyfer grwpiau penodol o bobl yn cynnwys myfyrwyr, nyrsys-fyfyrwyr, gofalwyr a’r rhai sydd ag anabledd difrifol.
Gellir dod o hyd i wybodaeth bellach am ostyngiadau/esemptiadau ar y daflen ‘Eich Treth y Cyngor 2012/2013’.
Gostyngiad ar gyfer pobl sydd ag anableddau
Os oes angen ystafell neu le ychwanegol ar rywun yn eich cartref o ganlyniad i anabledd efallai y bydd modd i chi dderbyn gostyngiad ar eich bil. Bydd eich cartref yn cael ei ddyfarnu fel pe bai o dan fand prisio is.
Gostyngiad yn ôl disgresiwn
Mae rheoliadau newydd yn rhoi disgresiwn i Gynghorau ostwng swm y Dreth y Cyngor sydd yn daladwy o dan amgylchiadau arbennig lle y mae caledi penodol (e.e. yn dilyn difrod o achos llifogydd neu dân).
Am wybodaeth neu gyngor pellach cysylltwch â’r Cyngor.
Cysylltu
Ffôn: 01633 644630
Cyfeiriad: Council Tax, PO Box 106, Cil-y-coed, NP26 9AN
E-bost: counciltax@monmouthshire.gov.uk