Roedd y cynllun i gyflwyno parthau 20 milltir yr awr (mya) fel rhan o gynllun peilot ar draws Sir Fynwy wedi ei drafod yng nghyfarfod cyngor llawn o Gyngor Sir Fynwy ar ddydd Iau, 16eg Rhagfyr. Bydd y cynllun Llywodraeth Cymru yn arwain at barthau 20mya yn cael eu cyflwyno mewn camau gwahanol, a bydd y cam cyntaf yn cynnwys wyth cymuned, ac mae dwy ohonynt yn Sir Fynwy.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Pratt, yr aelod cabinet dros Seilwaith: “Rydym yn gwerthfawrogi fod nifer o drefi a phentrefi ar draws y sir yn cefnogi gostwng cyflymder ar ein heolydd. Mae’r buddion o ostwng y terfyn cyflymder trefol o 30mya i 20mya yn mynd i gyfrannu at leihau amlder a difrifoldeb gwrthdrawiadau ar yr heolydd, creu mwy o gyfleoedd i gerdded a seiclo yn ein cymunedau, gwneud ein strydoedd yn fwy diogel ac yn helpu diogelu’r awyrgylch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
“Ar hyn o bryd, mae cynlluniau peilot yn Y Fenni a Glannau Hafren yn cael eu blaenoriaethu, gydag ymgynghoriad ar gyfer y Gorchymyn Traffig yn dechrau ar 22ain Rhagfyr ac yn cael ei gynnal am 28 diwrnod. Mae’r cyfnod ymgynghori wedi ei ymestyn er mwyn cydnabod y gwyliau dros gyfnod y Nadolig. Os na cheir unrhyw wrthwynebiad nad oes modd ei ddatrys, yna bydd y parthau 20mya yn weithredol o fis Chwefror yn Y Fenni ac yng Nglannau Hafren. Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth gan swyddogion Llywodraeth a Thrafnidiaeth Cymru.”
Y parthau 20mya eraill sydd wedi eu cytuno ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yw: Y Dyfawden, Matharn, Trefynwy gan gynnwys Wyesham) Mynyddbach, Drenewydd Gelli-farch a dwy ran o Gas-gwent (Heol Mounton a chanol y dref). Bydd yr ymgynghoriad 21 diwrnod ar gyfer y Gorchymyn Traffig yna yn dechrau yn gynnar ym mis Chwefror, bydd y parthau 20mya yn weithredol o fis Mawrth 2022. Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn bwriadu cynnig bod y cynllun peilot ar gyfer parthau 20mya yn Rhaglan a Thyndyrn yn cael eu gwneud yn rhai parhaol, ac mae hyn yn cael ei gefnogi’n helaeth.”
Am fwy o wybodaeth am brosiect 20mya Llywodraeth Cymru, ewch os gwelwch yn dda i https://llyw.cymru/cyflwyno-terfynau-cyflymder-20mya