Cafodd pont Gwaith Gwifrau Tyndyrn, sydd â rhestriad Gradd II ac sy’n croesi o Sir Fynwy i Swydd Caerloyw, ei chau i gerbydau ym mis Awst 2021 yn dilyn canlyniadau asesiad strwythurol a gynhaliwyd ynghynt yn y flwyddyn. Mae cerddwyr a seiclwyr wedi dal i fedru defnyddio’r bont. Fodd bynnag, gyda chyflwr y bont yn gwaethygu, mae angen gwneud atgyweiriadau sylweddol fydd yn cryfhau’r bont a sicrhau ei dyfodol hirdymor yn hytrach nag atgyweiriad dros dro na fyddai’n effeithlon o ran cost nag yn cael unrhyw effaith barhaol.
Mae’r bont sy’n croesi’r Afon Gwy yn Nhyndyrn yn eiddo ar y cyd i Gyngor Swydd Caerloyw a Chyngor Sir Fynwy. Mae cynlluniau i atgyweirio’r bont yn mynd rhagddynt, dan arweiniad Cyngor Swydd Caerloyw gyda chefnogaeth Cyngor Sir Fynwy.
Bydd y gwaith arfaethedig yn cynnwys tynnu’r dec pren presennol a rhoi dec gyda’r capasiti gofynnol yn ei le. Bydd hefyd angen cryfhau’r strwythur a bydd hyn yn cynnwys trawstiau bocs newydd yn lle’r seilwaith dur presennol sydd wedi rhydu. Caiff graean ei chwythellu a chaiff yr cynaliadau/pileri gwaith maen eu hailbwyntio.
Yn anffodus, bydd rhai o’r gweithgareddau hyn yn golygu y bydd yn rhaid cau’r bont i’r holl gerddwyr a seiclwyr – er enghraifft, bydd angen tynnu’r dec pren yn llwyr am gyfnod sylweddol yn y cyfnod adeiladu. Y bwriad ar hyn o bryd yw dechrau’r gwaith yng ngwanwyn 2022. Nid yw hyn yn benderfyniad a wnaed yn ysgafn oherwydd y sylweddolir yr anghyfleuster y bydd yn ei achosi. Fodd bynnag, byddai gwneud y gwaith dros fisoedd y gaeaf yn achosi risg ychwanegol yng nghyswllt llifogydd, lefelau dŵr uchel, amgylchedd gwaith diogel, tywydd gwael a llai o olau dydd, fyddai i gyd yn golygu risg y byddai cyfnod y gwaith yn gorfod cael ei ymestyn.
Cam nesaf y prosiect fydd tendro’r gwaith ac ystyried y mesurau lliniaru posibl i ostwng yr effaith. Byddai’r ddau gyngor yn croesawu awgrymiadau neu wybodaeth ar unrhyw fesurau ychwanegol gan fusnesau lleol, preswylwyr a defnyddwyr eraill y bont. Mae’r gwaith cynllunio eisoes wedi dechrau, fydd yn cynnwys rhybudd ymlaen llaw am gau hawl tramwy cyhoeddus, gyda mapiau wedi’u rhoi ar bob llwybr yn arwain at y bont ac mewn meysydd parcio lleol, yn cynghori am ffyrdd cerdded eraill. Bydd cyflwyno’r gweithgareddau adeiladu mewn camau yn anelu i leihau ymyriad, ac enghraifft o hyn yw’r nod i ddechrau chwythellu graean i ddechrau ar ôl gwyliau hanner tymor gwanwyn ysgolion a’i gwblhau cyn gwyliau haf ysgolion.
Dywedodd y Cyng Jane Pratt, Aelod Gabinet dros Seilwaith ar Gabinet Cyngor Sir Fynwy: “Rydym yn cefnogi penderfyniad anodd Cyngor Swydd Caerloyw ar gyfer y gwaith atgyweirio i’r Bont Gwaith Gwifrau. Er y sylweddolwn yr anghyfleuster a achosir, dymunwn weld y bont yn ddiogel, wedi’i hadfer i’w chyn ogoniant a’i hailagor cyn gynted ag sydd modd.”
Dywedodd y Cynghorydd Ann Webb, Aelod Ward Tyndyrn: “Rwy’n deall rhwystredigaeth preswylwyr a busnesau, ond rwy’n derbyn barn y peiriannydd a bod angen brys am y gwaith hwn ar y bont a bod yn rhaid ei wneud cyn gynted â bod pob caniatâd yn ei le.”
Bydd yr holl breswylwyr a busnesau, yn cynnwys gwestai a llety gwyliau eraill, yn derbyn llythyr yn y dyfodol agos gyda manylion y cau a ffyrdd amgen. Mae Cyngor Swydd Caerloyw yn bwriadu cynnal ymgynghoriad a digwyddiadau cyhoeddus yn gynnar yn 2022 i rannu’r cynigion ar gyfer y gwaith arfaethedig.
Caiff yr wybodaeth ddiweddaraf ei rhoi ar y dudalen ddilynol ar y wefan: