Mae Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, prosiect sy’n torri tir newydd, yn anelu i wella a datblygu seilwaith gwyrdd – term a ddefnyddir i ddisgrifio’r rhwydwaith o nodweddion naturiol a lled-naturiol, gofodau gwyrdd, afonydd a llynnoedd sydd yn gwasgaru a chysylltu pentrefi, trefi a dinasoedd – yn ogystal â darparu cyfleoedd swyddi gwyrdd o fewn yr ardal. Mae gan seilwaith gwyrdd rôl hanfodol wrth drin argyfyngau natur, newid hinsawdd ac iechyd.
Caiff y bartneriaeth ei harwain gan Gyngor Sir Fynwy, gan weithio gyda chynghorau Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen yn ogystal â Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymchwil Coedwigoedd ac Asiantaeth Ynni Hafren Gwy. Bydd y sefydliadau yn cydweithio i sicrhau fod adnoddau naturiol yr ardal yn iach, gan fedru gwrthsefyll pwysau a bygythiadau ac felly’n cynnig buddion iechyd a llesiant hanfodol yn well i genedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Bydd Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent yn gwireddu ymrwymiad Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) a Deddf Amgylchedd (Cymru) drwy wella cydweithio gyda phartneriaid, cynnwys dinasyddion lleol a chyflawni ar draws pob un o’r saith nod llesiant.
Bydd y prosiect yn cyflwyno ystod o fuddion llesiant i gymunedau lleol a chynlluniau i wneud gwelliannau i ofodau gwyrdd, parciau trefol a gwledig, llwybrau seiclo a hawliau tramwy cyhoeddus. Bydd yn hwyluso gwell rheolaeth a chreu coetiroedd ac yn gweithredu i ddiogelu a chyfoethogi cynefinoedd hanfodol ar gyfer peillwyr. Bydd y bartneriaeth hefyd yn ymchwilio gwell rheolaeth ar ofodau naturiol i roi cyfleoedd sy’n cyflawni gweithgaredd gyda ffocws ar fesurau iechyd ataliol.
Dywedodd y Cynghorydd Lisa Dymock, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am seilwaith gwyrdd: “Rwy’n croesawu sefydlu Partneriaeth Grid Gwyrdd Gwent, sy’n dod ag awdurdodau lleol Gwent a thri sefydliad arall ynghyd i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd naturiol a rhoi cyfleoedd i gymunedau’r ardal.”
Caiff y prosiect ei gefnogi gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig: Ewrop yn Buddsoddi mewn Ardaloedd Gwledig a chaiff ei gyllido gan Grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant Llywodraeth Cymru.