Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gwahodd preswylwyr i ymuno mewn trafodaethau i drawsnewid Heol Casnewydd rhwng canol tref Cil-y-coed a’r B4245 i fod yn amgylchedd mwy dymunol. Mae’r cyngor yn gweithio ar gynlluniau i wella’r dramwyfa i orllewin canol y dref ac yn anelu ei wneud yn lle croesawgar i breswylwyr, busnesau ac ymwelwyr gyda llwybr mwy gwyrdd a deniadol ar gyfer cerddwyr a seiclwyr.

I brofi rhai o’r cynigion, mae’r cyngor yn bwriadu cau’r ffordd am dair wythnos i draffig trwodd – ac mae cynlluniau i ddefnyddio’r gofod ar ôl cau’r ffordd ar gyfer gweithgareddau am ddim i blant yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gyda ffordd lydan Heol Casnewydd, mae’r ffocws presennol ar draffig cerbydau – peth ohono’n teithio’n gymharol gyflym – ynghyd â phalmant cul neu rannau heb balmant, sy’n gorfodi cerddwyr i groesi neu gerdded yn y ffordd. Yn ychwanegol, mae Heol Casnewydd yn cynnwys rhan o lwybr seiclo lleol a chenedlaethol ond mae llawer o seiclwyr yn credu ei fod yn llwybr anneniadol ac anniogel.

Mae’r cyngor wedi dynodi nifer o gyfleoedd i wella Heol Casnewydd. Mae hyn yn cynnwys lledu’r llwybr troed ar y ddwy ochr, fyddai’n rhoi mwy o le i gerddwyr ac yn helpu i ostwng cyflymder cerbydau a chreu amodau mwy diogel ar gyfer seiclwyr. Ychydig iawn o dirlunio neu goed sydd yn Heol Casnewydd, a byddai amgylchedd mwy gwyrdd yn ei wneud yn fwy dymunol a deniadol, yn ogystal â chynnig buddion amgylcheddol fel helpu i drin dŵr glaw neu ddarparu cynefinoedd bywyd gwyllt.

Mae gwaith cynnar ar y cynigion yn awgrymu y byddai dod â’r lefel fwyaf o wella i’r rhan hon o Heol Casnewydd yn dibynnu ar p’un ai a fedrid ei chau i draffig trwodd. I ddeall effaith cau o’r fath – ar Heol Casnewydd ei hun yn ogystal â’r strydoedd o amgylch a busnesau cyfagos, mae’r cyngor yn bwriadu cau’r ffordd am gyfnod prawf o dair wythnos o ddydd Llun 11 Hydref. Bydd hyn yn rhan o ymgynghoriad agos gyda phreswylwyr Heol Casnewydd a busnesau canol y dref yn ogystal â gwasanaethau argyfwng a chyrff statudol eraill.

Bydd y man cau ar gyfer y cyfnod prawf ger y gyffordd gyda Ffordd Jiwbilî, felly bydd preswylwyr a busnesau yn dal i gael mynediad o’r B4245 – ond ni chaniateir traffig drwodd. Caiff mynediad ar gyfer cerbydau argyfwng ei gadw drwy gydol y cyfnod prawf.

Mae’r cyngor yn awyddus i glywed gan breswylwyr a busnesau ar welliannau ar gyfer y ffordd. Bydd y syniadau ar gael ar ei wefan – www.monmouthshire.gov.uk – a bydd yn cynnal arddangosiad cyhoeddus yng nghanol tref Cil-y-coed yn ogystal â sesiwn galw-heibio gymunedol rhwng 10am a 5pm ar 22 a 23 Hydref – bydd hyn yn rhoi cyfle i breswylwyr a busnesau Heol Casnewydd gwrdd â swyddogion y cyngor yn ystod y cyfnod prawf, trafod syniadau a rhoi adborth ymarferol. Gall pobl hefyd gysylltu drwy ffonio 07890 024489 neu anfon e-bost at: MCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Sara Jones, aelod cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb am adfywio: “Rydym yn ymchwilio ffyrdd i wella Heol Casnewydd i greu amgylchedd mwy dymunol ac rwy’n annog yr holl breswylwyr, ymwelwyr i Gil-y-coed, busnesau’r dref a sefydliadau eraill i gymryd rhan mewn trafodaethau ar ddyfodol yr ardal.”

Fel rhan o’r prosiect, mae’r cyngor wedi trefnu nifer o ddigwyddiadau cymunedol ar Heol Casnewydd yn ystod y cyfnod prawf o dair wythnos. Rhwng 10am a 12pm ddyddiau Sadwrn 16, 23 a 30 Hydref, yn ogystal ag ar 25, 27 a 29 Hydref yn ystod hanner tymor ysgolion, bydd cyfleoedd chwarae a gweithgaredd corfforol ar gyfer plant rhwng 2 a 11 oed. Ac o 30 Hydref rhwng 10am a 12pm, gall plant ddod â’u beiciau a’u helmedau i ddysgu sylfeini seiclo’n ddiogel ar y ffordd – a bydd siop feiciau Caldicot Cycles yn cynnig gwneud atgyweirio syml i feiciau a chyngor am ddim.