Skip to Main Content

e-Lyfrau Sain ac e-Lyfrau.

Mae ein gwasanaeth BorrowBox yn golygu y gall aelodau llyfrgell fenthyca eLyfrau ac eLyfrauSain i’w mwynhau ar ffôn clyfar, dyfais llechen neu gyfrifiadur – i gyd yn rhad ac am ddim! Gallwch gofrestru i gael cerdyn llyfrgell ar-lein a byddwch angen PIN i fewngofnodi.

Mae miloedd o eLyfrau ac eLyfrauSain ar gyfer oedolion, plant a phobl ifanc mewn ystod eang o genres, i gyd o un wefan.  Mae’r casgliad yn tyfu’n gyson felly dewch yn ôl yn gyson i fwynhau’r ychwanegiadau diweddaraf.

  • Bydd eich benthyciadau yn dod i ben ar ôl 2 wythnos ond gallwch eu hadnewyddu. Gallwch hefyd ddychwelyd teitlau yn gynharach os ydych wedi gorffen gyda nhw.
  • Gallwch fenthyca neu gadw hyd at 10 llyfr ar y tro.

Sut i ddefnyddio Borrowbox;

Y ffordd fwyaf poblogaidd o fwynhau BorrowBox yw trwy’r ap BorrowBox.

Mae’n hawdd iawn i’w ddefnyddio, yn syml:

  • Lawrlwythwch yr ap BorrowBox i’ch ffôn clyfar a/neu eich tabled. Mae BorrowBox ar gael ar gyfer dyfeisiau Apple, Android a Kindle Fire. Chwiliwch am BorrowBox o fewn siop ap eich dyfais.
  • Teipiwch Sir Fynwy ym maes chwilio’r llyfrgell a dewis eich llyfrgell.
  • Mewngofnodwch i ddefnyddio eich Rhif Cerdyn Llyfrgell a PHIN Llyfrgell (gofynnwch i’ch llyfrgell os oes angen nodyn atgoffa o’ch PIN).

Yna gallwch bori a benthyg e-lyfrau ac e-lyfrau Llafar a ‘u llwytho i lawr i’w mwynhau o fewn yr ap.

Gallwch hefyd ddarllen e-lyfrau a gwrando ar e-lyfrau llafar ar gyfrifiadur neu liniadur trwy ymweld â’n gwefan BorrowBox a mewngofnodi gyda’ch rhif cerdyn llyfrgell a PHIN.

  • Lawrlwythwch e-Lyfrau i gyfrifiadur a’u trosglwyddo i e-Ddarllennydd addas.
  • Lawrlwythwch e-Lyfrau Sain i wrando ar gyfrifiadur neu i drosglwyddo i chwaraewr MP3.