Ardrethi annomestig yw’r ffordd y mae busnesau a meddianwyr eiddo annomestig eraill yn cyfrannu’n anuniongyrchol tuag at gostau gwasanaethau awdurdodau lleol.
Mae ardrethi busnes (ardrethi annomestig cenedlaethol) yn daladwy ar y rhan fwyaf o eiddo annomestig. Cânt eu casglu gan y cyngor, eu talu i mewn i gronfa ganolog yna eu hailddosbarthu i awdurdodau lleol er mwyn talu am wasanaethau.
Cyfrifir y cyfraddau sy’n daladwy trwy gymhwyso ‘puntdal’ neu ‘luosydd’ i’r gwerth ardrethol. Mae’r lluosydd yn cael ei osod yn flynyddol gan Lywodraeth Cymru ac, ac eithrio mewn blwyddyn ailbrisio, ni all godi mwy na’r cynnydd yn y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI). Rhwng 2019/20 a 2023/24 y lluosydd oedd 0.535. Ar gyfer 2024/25, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau mai 0.562 fydd y Lluosydd Ardrethi Annomestig
Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VAO) yn prisio pob eiddo busnes ar gyfer ardrethi busnes. Mae’r prisiad yn seiliedig ar y wybodaeth y mae’r VOA yn ei chadw am eich eiddo. Defnyddir y Gwerth Ardrethol hwn gan y cyngor i gyfrifo’r cyfraddau busnes ar gyfer yr eiddo. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar Business Rates: Overview – GOV.UK (www.gov.uk)
Ailbrisio Ardrethi Annomestig 2023-2024
Daeth y rhestr ardrethu annomestig i rym ar 1 Ebrill 2023, yn dilyn ymarfer ailbrisio gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA). Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Rhyddhad Ardrethi Busnes
Mae sawl rhyddhad ar gael a allai leihau eich bil ardrethi busnes.
Mae Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach (SBRR) yn darparu rhyddhad o 100% ar gyfer eiddo sydd â gwerth ardrethol o hyd at £6,000. Ar gyfer eiddo sydd werth rhwng £6,001 a £12,000 mae rhyddhad yn cael ei dapro. Nid oes hawl i’r rhyddhad hwn os yw’r eiddo’n wag.
Rhyddhad Caledi. Gall cynghorau roi rhyddhad i fusnesau sy’n wynebu caledi os yw gwneud hynny er budd y gymuned leol a phe bydda’r trethdalwr yn wynebu caledi pe na bai rhyddhad yn cael ei roi. Dylid gwneud ceisiadau’n ysgrifenedig a chynnwys tystiolaeth i gefnogi’r cais.
Mae ein Nodyn Esboniadol ar Ardrethi Busnes yn egluro rhai o’r termau a ddefnyddir yng nghyd-destun ardrethi annomestig .
O’r 1af o Ebrill 2024, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddau gynllun rhyddhad ardrethi newydd:-
Mae Rhyddhad Gwelliannau ar gael i drethdalwyr sy’n buddsoddi mewn gwelliannau i’w heiddo annomestig a fydd yn cefnogi eu busnes.
Nid oes angen i chi wneud cais am ryddhad gwelliannau. Os ydych yn ateb y gofynion angenrheidiol, byddwch yn derbyn tystysgrif gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Bydd yr Asiantaeth yn rhoi’r un wybodaeth i chi â’ch cyngor lleol. Cyhyd â’ch bod yn meddiannu’r adeilad cyn ac ar ôl y gwaith gwella, caiff y rhyddhad ei roi i’ch cyfrif ardrethi a chyhoeddir bil diwygiedig. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Mae Rhyddhad Rhwydweithiau Gwresogi wedi’i gyflwyno fel modd o gefnogi twf yn yr ardal carbon isel hon. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2023/24
Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn rhoi’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys ar gyfer 2023/24.
Nod y cynllun yw darparu cefnogaeth i eiddo cymwys sydd wedi’i feddiannu drwy gynnig gostyngiad o 75% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys , fodd bynnag, bydd y rhyddhad yn ddarostyngedig i derfyn yn y swm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu meddiannu gan yr un busnes.
Mae mwy o fanylion am y cynllun ar gael yn https://businesswales.gov.wales
Mae’n ofynnol i bob busnes, wneud datganiad wrth wneud cais i awdurdodau lleol unigol, yn cadarnhau nad yw swm y rhyddhad y maent yn ei gwneud cais amdano ledled Cymru yn uwch na’r cap hwn.
Mae ‘r cynllun hwn bellach wedi cau.
Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch yng Nghymru – 2024/25
Mae’r rhyddhad hwn wedi’i anelu at fusnesau a thalwyr ardrethi eraill yng Nghymru yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, er enghraifft siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.
Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid grant i bob un o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn rhoi’r cynllun Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i fusnesau cymwys ar gyfer 2023/24.
Nod y cynllun yw rhoi cefnogaeth i eiddo cymwys a feddiannir drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo o’r fath. Bydd y cynllun yn berthnasol i bob busnes cymwys , fodd bynnag, bydd y rhyddhad yn ddarostyngedig i derfyn yn y swm y gall pob busnes ei hawlio ledled Cymru. Cyfanswm y rhyddhad sydd ar gael yw £110,000 ar draws yr holl eiddo sy’n cael eu meddiannu gan yr un busnes.
Mae mwy o fanylion am y cynllun ar gael yn https://businesswales.gov.wales