Sir Fynwy yw’r awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i ymrwymo i anelu at gydraddoldeb rhwng y rhywiau er mwyn i gynghorwyr etholedig adlewyrchu cymaint â phosibl y trigolion y maent yn eu cynrychioli. Pasiwyd y cynnig a gyflwynwyd gan Arweinydd y Cyngor Richard John yn unfrydol yng nghyfarfod y Cyngor llawn ddoe (dydd Iau 24ain Mehefin), gyda diwygiad yn cydnabod nodweddion gwarchodedig.
Cytunodd cynghorwyr ar draws y pedwar grŵp gwleidyddol i gymryd camau i wneud Sir Fynwy yr awdurdod lleol cyntaf i sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn etholiadau’r flwyddyn nesaf.
Mae Sir Fynwy eisoes yn arwain y ffordd gyda Chabinet sy’n gwbl gytbwys o ran rhywedd. Cyhoeddwyd cynrychiolaeth well fis diwethaf pan gadarnhaodd arweinydd newydd y Cyngor, y Cynghorydd Richard John, benodiad y Cynghorydd Sara Jones yn Ddirprwy Arweinydd, ynghyd â’r Cynghorydd Lisa Dymock yn dod yn Aelod Cabinet dros Lesiant Cymunedol a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ogystal â’r aelodau cabinet benywaidd presennol.
Dywedodd y Cynghorydd Richard John, “Mae Sir Fynwy eisoes yn un o’r cynghorau mwyaf amrywiol yng Nghymru gyda 35% o fenywod yn aelodau a chynghorwyr yn eu 30au a’u 80au a phopeth rhyngddynt.
“Mae gennym fodelau rôl benywaidd gwych ar draws y pleidiau, sy’n herio delwedd nodweddiadol llywodraeth leol ac yn annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol.
“Nid oes yr un cyngor yng Nghymru erioed wedi cyflawni cydraddoldeb rhwng y rhywiau ac mae llawer o gynghorau bron yn ddynion hŷn yn gyfan gwbl, sydd yn yr oes sydd ohoni’n rhyfedd iawn, felly rydym wedi cytuno i anelu at fod y cyntaf i sicrhau democratiaeth leol gwbl gynhwysol.
“Mae cyngor sy’n adlewyrchu ein cymuned yn ei chyfanrwydd mewn gwell sefyllfa i gynrychioli’n ddigonol yr ystod eang o safbwyntiau a phrofiadau preswylwyr.
“Mae yna gysylltiad uniongyrchol rhwng cyfansoddiad cyngor – a’i weithgareddau – y pynciau y mae’n eu trafod, y polisïau y mae’n craffu arnynt a’r penderfyniadau y mae’n eu gwneud.
“Rydym bellach wedi cytuno bod cydraddoldeb rhwng y rhywiau yn nod sy’n werth ymdrechu amdano ac y byddwn i gyd yn cymryd camau i sicrhau bod gan breswylwyr ystod amrywiol o ymgeiswyr i ddewis ohonynt y flwyddyn nesaf.”