Skip to Main Content

Os hoffech wneud cais am Orchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro, llenwch y ffurflen isod a’i dychwelyd gyda’r holl ddogfennau angenrheidiol a thaliad i’r e-bost a nodir yn y ffurflen.

Rhaid cyflwyno CEISIADAU WYTH WYTHNOS cyn y dyddiad cau y gofynnir amdano.

Cost y Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dros Dro yw £2,660.00 (ynghyd â £25.00 os ydych yn talu drwy archeb brynu). Mae hyn yn cynnwys costau hysbysebu a chostau gweinyddol sydd yn rhaid i’r Cyngor eu talu.

Bydd YR YMGEISYDD(YMGEISWYR) yn gyfrifol am y canlynol:

  • Cysylltu ag Adran Rheoli Rhwydweithiau Cyngor Sir Fynwy i gadw lle ar y ffordd – gallai methu â gwneud hynny arwain at ohirio’r gwaith.
  • Cysylltwch ag Adran Rheoli Rhwydweithiau drwy ffonio 01633-644764, neu e-bostiwch streetworks@monmouthshire.gov.uk.
  • Rhoi gwybod i holl ddeiliaid tai, tirfeddianwyr, busnesau ac ati ar hyd y ffordd yr effeithir arni am y gwaith a’r heol sydd cau.
  • Sicrhau bod mynediad i gerddwyr yn cael ei gynnal bob amser, ynghyd â, lle bo’n rhesymol ymarferol, mynediad i gerbydau i eiddo cyfagos.
  • Rhoi cynllun rheoli traffig lliw i’r Awdurdod Priffyrdd (trwy e-bost yn ddelfrydol), yn amlygu graddau’r cau, yr holl arwyddion o flaen llaw a llwybr(au) dargyfeirio unwaith y bydd y llwybr amgen wedi’i gytuno.
  • Darparu arwyddion dros dro, gan gynnwys arwyddion dargyfeirio, yn unol â Phennod 8 y Llawlyfr Arwyddion Traffig, BS 873 a Rheoliadau a Chyfarwyddiadau Cyffredinol Arwyddion Traffig 2016.
  • Indemnio’r Cyngor Sir mewn perthynas â chostau yr eir iddynt yn rhesymol ar unrhyw lwybr amgen neu ddosbarthiad is na’r briffordd gaeedig, i:
  • Gwella neu gryfhau’r briffordd neu’r strwythur arno i’w alluogi i gael ei ddefnyddio fel llwybr amgen;
  • Gwneud yn iawn am unrhyw ddifrod i’r briffordd neu strwythurau arno o ganlyniad i’w ddefnyddio fel llwybr amgen.
  • Rhaid i’r Ymgeisydd neu ei Gontractwr anfon llythyr i hysbysu’r holl ddeiliaid tai, Tirfeddianwyr, busnesau ac ati yn yr ardal gyfagos, a fydd yn cael eu heffeithio gan gau’r ffordd, o leiaf saith diwrnod cyn dyddiad dechrau’r cau’r ffordd.