Ar dydd Llun 21 Mehefin bydd llai na 10 diwrnod ar ôl tan y dyddiad cau o 30 Mehefin 2021 i wneud cais i Gynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE (EUSS).
Bydd y Swyddfa Gartref yn nodi’r garreg filltir hon drwy gyfrif y dyddiau ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol rhwng nawr a dyddiad olaf y cynllun er mwyn cyrraedd rhai na wnaeth gais i wneud hynny fel mater o frys.
Mae cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog erbyn 30 Mehefin 2021 yn sicrhau eich hawliau presennol yng nghyfraith y Deyrnas Unedig nes y dyfernir statws i chi, felly rydym yn annog pobl sy’n gymwys i wneud cais nawr, a pheidio oedi. Gellir gwneud ceisiadau yn www.gov.uk/eusettlementscheme
Dyfarnwyd statws preswylydd cyn-sefydlog neu sefydlog i dros 5 miliwn o bobl, gan alluogi dinasyddion i barhau i weithio, astudio a chael mynediad i ofal iechyd am ddim a budd-daliadau yn y Deyrnas Unedig ar ôl 30 Mehefin 2021.
Help i wneud cais
Mae cymorth ar gael saith diwrnod yr wythnos dros y ffôn a drwy e-bost ar gyfer unrhyw un sydd angen help gyda’u cais. Mae gan y Swyddfa Gartref dîm arbennig o fwy na 1,500 o bobl yn gweithio ynghyd â rhwydwaith ar draws y Deyrnas Unedig o 72 elusen ac awdurdodau lleol sy’n cefnogi ymgeiswyr mwyaf bregus ac anodd eu cyrraedd yn cynnwys rhai sy’n anabl, oedrannus, ynysig, sydd â phroblemau iaith neu lythrennedd, dioddefwyr cam-driniaeth domestig, rhai sy’n cael anawsterau defnyddio technoleg neu yn fregus mewn modd arall.
Mae eich cyfraniadau yn werthfawr tu hwnt wrth helpu i gyrraedd y bobl hyn yn yr ychydig ddyddiau olaf sydd ar ôl cyn y dyddiad cau o 30 Mehefin 2021.