‘Codwch faw eich ci neu wynebwch ddirwy’ yw’r rhybudd gan Gyngor Sir Fynwy wrth iddo geisio addysgu perchnogion cŵn am beryglon peidio â glanhau ar ôl eich anifail anwes.
Daw addewid y cyngor yn dilyn diwrnod ymwybyddiaeth llwyddiannus a gynhaliwyd ar 22ain Ebrill 2021 ar draws Parc Beili’r Fenni, tref Brynbuga a phentref Rhaglan, lle dosbarthwyd bagiau baw i bobl a oedd yn cerdded eu cŵn ac a oedd eu hangen. Anogwyd perchnogion cŵn hefyd i ddefnyddio’r llu o finiau baw cŵn a sbwriel wrth fynedfeydd Parc Beili i waredu ar faw cŵn mewn bagiau, neu fynd ag ef adref lle gellir ei roi mewn bin gwastraff cartref.
Ym Mrynbuga, mae’r ap “Pooper Snooper” wedi’i fabwysiadu i helpu i fynd i’r afael â baw cŵn yn y dref. Mae’r ap yn mapio’r holl finiau baw cŵn a sbwriel yn y dref, felly mae’n hawdd darganfod lleoliad pob bin ar gyfer pobl sydd â chŵn newydd neu sy’n ymwelwyr â’r ardal. Mae hefyd yn darparu dull o roi gwybod am ddigwyddiadau baw cŵn, a all helpu i nodi’r prif fannau lle gellid cynyddu patrolio neu ddarparu bin. Y mwyaf o bobl sy’n defnyddio’r ap, y mwyaf yw ei ddefnyddioldeb wrth fynd i’r afael â’r broblem.
Yn Rhaglan, ymwelwyd â gwahanol safleoedd sy’n prif fannau a nodwyd ar y cyfryngau cymdeithasol a defnyddiwyd stensil palmant i atgoffa perchnogion cŵn bod rhaid ‘Codi a Glanhau’. Roedd yr holl berchnogion cŵn yn y pentref y daethpwyd ar eu traws yn cario bagiau, sy’n helpu i dynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif helaeth o berchnogion cŵn yn gyfrifol ac yn cefnogi’r angen i’w ‘fagio a’i binio’.
Ar wahân i’r materion annymunol amlwg sy’n ymwneud â baw cŵn ar esgidiau, cadeiriau gwthio, beiciau a chadeiriau olwyn, mae gan ysgarthion cŵn risgiau iechyd gwirioneddol. Mae tocsocariasis yn haint a drosglwyddir o anifeiliaid i bobl drwy gysylltiad ag wyau llyngyr parasitig, fel arfer drwy ysgarthion anifeiliaid anwes nad ydynt wedi’u clirio o’r llawr. Mae pobl sy’n chwarae chwaraeon neu’n eistedd ar y llawr yn fwy tebygol o fod mewn perygl o haint tocsocariasis, sy’n gallu achosi dallineb, difrod i organau ac, mewn achosion prin, septisemia. Gellir lleihau’r risg os bydd perchnogion yn glanhau ysgarthion eu hanifeiliaid anwes o’r llawr, ac os yw eu hanifeiliaid yn cael eu trin yn rheolaidd am lyngyr. Mae baw cŵn hefyd yn niweidiol i dda byw fferm, ac yn lleihau gwerth cnydau fel silwair a gwair.
Gall swyddogion awdurdodedig Cyngor Sir Fynwy gyflwyno hysbysiad cosb benodedig o £75 i rywun sy’n cael eu gweld yn methu â glanhau ysgarthion eu ci. Os na thelir yr hysbysiad cosb benodedig, gall ynad osod dirwy llawer trymach o hyd at £1000. Yn ogystal, gall unrhyw breswylydd sy’n dystion i faeddu gan gŵn roi gwybod amdano drwy wefan y cyngor.