Cyfarfod y Cyngor yn Hydref 2023ar ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir
Ym mis Hydref 2023 cymeradwyodd y Cyngor ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir yn dilyn yr ymgynghoriad/ymgysylltu statudol ym mis Rhagfyr 2022 – Ionawr 2023. Gallwch adolygu’r adroddiad hwn yma ac mae fersiwn hawdd ei deall o’r Strategaeth a Ffefrir wedi’i diweddaru yma.
Strategaeth a Ffefrir y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA)
Roedd y Strategaeth a Ffefrir ynghyd â’r Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig Cychwynnol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus am gyfnod o wyth wythnos rhwng 5ed Rhagfyr2022 a’r 30ain Ionawr 2023.
Y Strategaeth a Ffefrir yw’r cam ymgynghori statudol cyntaf yn y broses o baratoi’r Cynllun ac mae’n darparu’r cyfeiriad strategol ar gyfer datblygu a defnyddio tir yn Sir Fynwy (ac eithrio’r ardal o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog) dros gyfnod y Cynllun o 2018 i 2033 ac mae’n nodi faint mae angen twf a lle bydd y twf hwn wedi’i leoli’n fras.
Mae’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ar y Strategaeth a Ffefrir a’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol wedi’u cyhoeddi fel dogfen ategol i’r CDLlA Adnau.