Mae timau o bob rhan o weithlu Cyngor Sir Fynwy wedi bod yn gweithio bob awr o’r dydd i gefnogi trigolion y mae Storm Christoph wedi effeithio arnynt. Sefydlodd y cyngor Dîm Ymateb Brys i fonitro peryglon llifogydd ac ymateb yn ôl yr angen.
Dosbarthwyd 750 o fagiau tywod i 51 eiddo preswyl. Caewyd y ffyrdd oedd â llifogydd – sef yr A4042 yn Llanelen, yr A4077 Gilwern i Ffordd Crughywel, y B4598 ym Mhantygoetre a’r ffordd nesáu at Frynbuga, yn ogystal â’r ardal ger Eglwys Sant Bartholemew yn Llanofer a’r darn o ffordd rhwng Llanllywel a Phontnewydd ar Wysg.
Arhosodd y staff gofal yn brysur drwy’r dydd yn cefnogi pobl. Darparwyd cymorth i bawb oedd angen hynny gan y tîm Gofal yn y Cartref.
Mae’r sefyllfa’n parhau i gael ei monitro a bydd timau’n gweithio drwy’r nos eto heno. Bydd lorïau graeanu allan ar bob llwybr gan y rhagwelir y bydd y tymheredd yn gostwng eto.
Mae lefelau’r afon ar yr Afon Wysg yn gostwng. Disgwylir ail uchafbwynt ar Afon Gwy heno a than fore yfory, a allai effeithio ar Barc Glanyrafon, Trefynwy. Mae’r sefyllfa’n cael ei monitro a bydd ymateb yn cael ei roi ar waith os bydd angen.
Dywedodd Peter Fox OBE, Arweinydd y Cyngor; “Mae’n gyfnod mor bryderus i bobl sy’n wynebu llifogydd posibl, rydyn ni’n meddwl amdanoch chi gyd. Mae’r llifogydd diweddar wedi bod yn peri gofid i gynifer. Diolch i bawb sy’n cefnogi trigolion Sir Fynwy ac yn gwneud popeth o’u gallu i gadw pobl yn ddiogel.”
Bydd rhagor o wybodaeth ar gael oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru, y Swyddfa Dywydd a sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook a Twitter y cyngor.