Bydd ysgolion uwchradd a cholegau Cymru yn symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun, 14 Rhagfyr ymlaen fel rhan o ‘ymdrech genedlaethol i atal trosglwyddo’r coronafeirws’ cadarnhaodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams heddiw.
Dywedodd y Gweinidog yn glir, diolch i ymdrechion staff addysg ledled y wlad, fod ysgolion a cholegau yn fannau diogel, gyda bron i hanner holl ysgolion Cymru heb gael unrhyw achosion o covid ers mis Medi.
Fodd bynnag, cydnabyddir y gallai’r ffaith fod lleoliadau addysg ar agor gyfrannu at gymysgu ehangach y tu allan i’r ysgol a’r coleg.
Wrth wneud y penderfyniad, roedd y Gweinidog yn teimlo ei bod yn bwysig cael ‘cyfarwyddyd clir, cenedlaethol’ i dynnu pwysau oddi ar ysgolion a cholegau unigol, awdurdodau lleol, rhieni a gofalwyr.
Dywedodd y Gweinidog fod ei phenderfyniad yn dilyn cyngor arbenigol gan Brif Swyddog Meddygol Cymru sy’n dangos bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Nghymru yn dirywio.
Mae’r data Profi, Olrhain, Diogelu diweddaraf yn dangos bod cyfraddau Covid-19 wedi cynyddu ymhellach ledled Cymru a’u bod bellach wedi pasio 370/100k gydag 17% o brofion yn bositif.
Mae’r gyfradd R yng Nghymru wedi cynyddu i 1.27 gydag amser dyblu o ddim ond 11.7 diwrnod.
Fel y digwyddodd yn ystod y cyfnod atal byr, bydd disgwyl i awdurdodau lleol ac ysgolion ystyried pa ddarpariaeth fyddai’n briodol i ddysgwyr agored i niwed, a gallai hyn gynnwys dysgu ar y safle.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams: “Bob dydd, rydyn ni’n gweld mwy a mwy o bobl yn cael eu derbyn i’r ysbyty gyda symptomau’r coronafeirws.
“Mae’r feirws yn rhoi pwysau sylweddol a pharhaus ar ein gwasanaeth iechyd ac mae’n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan i osgoi ei drosglwyddo.
“Yn ei gyngor i mi heddiw, mae’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
“Gallaf gadarnhau felly y dylid symud tuag at ddysgu ar-lein ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd a myfyrwyr coleg o ddydd Llun yr wythnos nesaf ymlaen.
“Rydym yn cydnabod, fel y gwnaethom yn ystod y cyfnod atal byr, ei bod yn anos i blant oedran cynradd ac ysgolion arbennig ymgymryd â dysgu hunangyfeiriedig.
“Dyna pam rydyn ni’n annog ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig i barhau i aros ar agor.
“Ar ôl siarad ag arweinwyr addysg lleol, rwy’n hyderus bod gan ysgolion a cholegau ddarpariaeth ddysgu ar-lein ar waith.
“Bydd hyn hefyd yn bwysig o ran sicrhau bod myfyrwyr gartref yn ystod y cyfnod hwn, gan ddysgu ac aros yn ddiogel.
“Yn bendant, ac mae hyn yn bwysig iawn, dylai plant fod gartref.
“Nid gwyliau Nadolig cynnar yw hwn, gwnewch bopeth o fewn eich gallu i leihau eich cysylltiad ag eraill.”
“Mae’r teulu addysg yng Nghymru wedi tynnu ynghyd gymaint o weithiau eleni i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i gwrs y feirws hwn ac yn y pen draw i achub bywydau, ac rwy’n gwybod y gallwn wneud yr un peth eto.
“Gyda’n gilydd gallwn ddiogelu Cymru.”