Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadarnhau y penderfynwyd peidio cyflwyno system un-ffordd yng nghanol tref Brynbuga. Yn lle hynny bydd goleuadau traffig dros dro yn parhau fel rhan o fesurau dros dro i alluogi ymbellhau cymdeithasol tra bod pandemig COVID-19 yn parhau.
Gosodir arwyddion i atgoffa teithwyr am y terfyn cyflymder 20mya drwy Frynbuga a’r angen i arafu, rhan allweddol o’r mesurau sydd eisoes wedi gwella diogelwch i gerddwyr yn y dref.
Gosodir goleuadau ‘clyfar’ yn lle’r goleuadau traffig presennol. Gall goleuadau clyfar fesur hyd ciwiau traffig ac addasu eu trefn yn unol â hynny er mwyn gostwng oedi. Caiff camerâu eu gosod hefyd i ddal modurwyr sy’n mynd drwy olau coch. Yn ogystal â bod yn fesur diogelwch pwysig, dylai hyn hefyd atal modurwyr sy’n methu stopio wrth olau coch. Mae gyrru drwy olau coch yn peryglu cerddwyr a defnyddwyr ffordd eraill a hefyd yn anghyfleus i bawb drwy wneud i’r goleuadau fynd i ddull ailosod diogelwch, gan droi’n goch yn y ddau gyfeiriad nes eu bod yn siŵr fod y gofod rhwng y goleuadau yn glir. Bydd y camerâu CCTV newydd yn ei gwneud yn bosibl erlyn troseddwyr.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy: “Rwy’n falch i ddweud ein bod wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Tref Brynbuga i gytuno ar y cynllun gorau posibl ar gyfer y dyfodol ar gyfer y dref tra bo angen i ni alluogi ymbellhau cymdeithasol i ostwng lledaeniad COVID-19. Cafodd y system un-ffordd a gafodd ei hystyried yn awr ei gwrthod a byddwn yn symud ymlaen gyda system goleuadau traffig mwy effeithlon.
“Codwyd pryderon am gerbydau HGV a fu’n mynd drwy’r dref er gwaethaf y terfyn pwysau 7.5t. I drafod hyn, byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa ac rydym yn falch i gadarnhau y bu gostyngiad amlwg yn nifer y loriau sy’n mynd drwy’r dref,” ychwanegodd y Cynghorydd Greenland.
Mae’r cyfuniad o lwybrau cerdded lletach ynghyd â gostwng y terfyn cyflymder eisoes wedi gwella diogelwch cerddwyr yn y dref. Bydd y mesurau dros dro hyn yn parhau tra bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud ymbellhau cymdeithasol yn ofynnol fel rhan hanfodol o atal lledaeniad COVID-19.