Rydym eisiau sicrhau na anghofir am blant a phobl ifanc fwyaf fregus Sir Fynwy y Nadolig hwn.
Gallwch ein helpu i wneud i hyn ddigwydd drwy gyfraniad ariannol, dim pwys pa mor fach, neu drwy gyfrannu rhodd a brynwyd.
Pwy fyddech chi yn eu helpu?
Plant a theuluoedd bregus y mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio gyda nhw, ein plant sy’n derbyn gofal, plant anabl/pobl ifanc ac ymadawyr gofal (18-25 oed) heb deulu.
Beth y bwriedir ei wneud gyda’r cyfraniadau a rhoddion?
Caiff yr holl gyfraniadau a gasglwyd eu defnyddio i brynu cardiau rhodd ar gyfer plant a chaiff y rhain, ynghyd â’r anrhegion caredig y gwnaethoch eu prynu, eu dosbarthu ledled Sir Fynwy yn y cyfnod cyn y Nadolig neu drwy brynu rhodd y gellir ei gadael yn un o’n Hybiau Cymunedol.
Beth fedrwch chi wneud i helpu?
Gallwch wneud gwahaniaeth i blant/person ifanc y Nadolig hwn drwy gyfrannu rhodd yn un o’n Hybiau Cymunedol neu drwy roi ar-lein.
I gyfrannu’n ariannol, cliciwch ar y ddolen isod, dewiswch “Gwasanaethau” ac yna “Dymuniadau Nadolig (Christmas Wishes)” yn y gwymplen. (gallwch weld rhagor Nodiadau Defnyddwyr isod).
Os cewch anhawster ffoniwch 01633 644644, a dewis prif opsiwn 5
Rydym yn deall yn iawn ei fod yn gyfnod anodd i lawer, felly diolch i chi am unrhyw gyfraniadau y gallwch eu gwneud i’n hapêl Dymuniadau Nadolig.
Gyda phob dymuniad da ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd!
Diolch gan Dîm Gwasanaethau Plant, Cyngor Sir Fynwy
Os cewch anhawster ffoniwch 01633 644644, a dewis prif opsiwn 5
Os cewch anhawster ffoniwch 01633 644644, a dewis prif opsiwn 5
Nodiadau Defnyddwyr Gwefan
I wneud cyfraniad dewiswch gwasanaethau ar law chwith y safle ac yna dewis ‘Dymuniadau’r Nadolig’ ar y fwydlen tynnu-lawr.