Gyda gaeaf ar ein gwarthaf a phryderon am coronafeirws yn debygol o deyrnasu, mae Cyngor Sir Fynwy wedi apelio ar aelodau o’r cyhoedd i gofio cael gwared yn ofalus â mygydau a menig ar ôl eu defnyddio, a pheidio eu taflu fel sbwriel. Gwelwyd nifer o gynyddol o fygydau untro gradd meddygol a menig glanweithdra glas ar ymyl ffyrdd, mewn parciau, meysydd parcio archfarchnadoedd a hyd yn oed allan yng nghefn gwlad. Cyn dyfodiad COVID-19 mewn gosodiadau meddygol tebyg i ysbytai, meddygfeydd teulu a deintyddfeydd y byddid wedi gweld yr eitemau hyn, lle cafodd staff eu hyfforddi i gael gwared yn iawn â PPE i atal halogiad a lledaenu heintiad ac afiechyd.
Rhwng diwedd mis Chwefror a chanol mis Ebrill 2020 amcangyfrifir y dosbarthwyd mwy na un biliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol (PPE) ym Mhrydain. Pe byddai dim ond cyfran fach o’r cyfanswm hwn yn cael eu taflu fel sbwriel, byddai’n dal i achosi problem amgylcheddol sylweddol oherwydd nad yw masgiau a menig PPE yn pydru ac ni fedrir eu hailgylchu. Maent hefyd yn fygythiad i iechyd staff glanhau’r cyngor neu wirfoddolwyr sy’n eu codi yn ystod eu gwaith i gadw Sir Fynwy yn daclus. Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn rhybuddio ei bod yn hanfodol gwaredu mewn modd priodol â PPE i osgoi cynnydd mewn trosglwyddo COVID-19.
“Nid oes unrhyw esgus dros daflu masgiau wyneb neu fenig fel sbwriel. Mae mor bwysig fod pobl yn gofalu am ei gilydd ac yn cael gwared â PPE yn gyfrifol i helpu atal coronafeirws rhag lledaenu”, meddai’r Cynghorydd Jane Pratt, Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb am Wastraff ac Ailgylchu.
Nid oes angen i’r rhan fwyaf o aelodau o’r cyhoedd wisgo masgiau wyneb untro gradd meddygol ond cynghorir y rhai sydd angen gwneud hynny i gario bag i roi eu masg a menig untro ynddo fel y gellir eu rhoi gyda’ch gwastraff ‘bag du’ yn eu cartrefi. Ar gyfer y rhan fwyaf o bobl, mae masgiau neu orchuddion wyneb ffabrig y gellir eu hailddefnyddio a’u golchi yn ddewis llawer gwell a rhatach, ac yn gyfle i fynegi eich personoliaeth, p’un ai yw hynny’n ffasiynol flodeuog neu ddu difrifol. Maent ar gael yn eang, ond os ydych yn fedrus gyda pheiriant gwnïo mae’n rhwydd ac yn gyflym gwneud eich rhai eich hun – mae digonedd o fideos ar YouTube yn dangos sut i’w gwneud. Er bod menig latex yn bwysig tu hwnt mewn gosodiadau clinigol, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai golchi dwylo yn rheolaidd yw’r dull gorau a mwyaf glanwaith i bobl nad ydynt yn gweithio mewn gosodiad meddygol. Os na allwch olchi eich dwylo yn rheolaidd, ewch â photel o hylif diheintio dwylo gyda chi.