Caiff ffyrdd a strydoedd Sir Fynwy eu cadw’n lân drwy ein rhaglen glanhau strydoedd. Pa mor aml y mae ffordd yn cael ei hysgubo yn dibynnu ar ddau beth:
- Bydd ffyrdd sydd â mwy o draffig a lle mae tueddiad i gael mwy o sbwriel yn cael eu hysgubo’n fwy aml
- Dylid clirio croniadau mwy o sbwriel a gwastraff yn gyflymach na chroniadau bach
Rydym yn pryderu am ba mor lân yw ardal o dir, yn hytrach na pha mor aml y caiff ei ysgubo. Mae hyn yn golygu mai anaml y bydd rhaid ysgubo ardal lle nad yw sbwriel yn broblem, ond efallai y bydd angen clirio ardal lle mae sbwriel yn broblem fawr yn fynych.
Mae Cyngor Sir Fynwy hefyd yn dosbarthu biniau sbwriel a rheoli tipio anghyfreithlon.
Biniau sbwriel
Mae maint a lleoliad biniau sbwriel yn cael ei benderfynu gan yr amgylchiadau sy’n bodoli ym mhob ardal. Mae’r rhan fwyaf o finiau sbwriel yn cael eu rhoi ar dramwyfeydd prysur, megis y stryd fawr, meysydd parcio, safleodd bysiau, ac yn agos at fwytai parod, os bydd digon o le i wneud felly.
Tipio anghyfreithlon
Dylid adrodd pob achos o dipio anghyfreithlon i’r Adran Glanhau a Rheoli Gwastraff ar 01633 644127. Rydym yn anelu at gael gwared ar dipio anghyfreithlon (heblaw am dipio ar dir preifat) o fewn pum diwrnod gwaith ar gyfartaledd, ac rydym yn gweithio’n agos gydag Asiantaeth yr Amgylchedd wrth ddelio ag achosion mawr o dipio anghyfreithlon.