Skip to Main Content

Mae’r gwasanaeth Deddf Rhyddid Gwybodaeth yn gweithredu o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gŵyl y Banc.

Rydym yn ceisio ymateb i’r holl geisiadau am wybodaeth o fewn 20 diwrnod. Nid yw diwrnodau’r penwythnos  a Gŵyl y Banc yn cael eu hystyried fel diwrnodau gwaith.

Beth yw hyn?

Mae’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn caniatáu i unrhyw un i ofyn i ni ddatgelu gwybodaeth sydd gennym ar unrhyw bwnc penodol. 

Rhaid i ni ddarparu’r wybodaeth hon oni bai bod yna resymau da am beidio gwneud hynny. Mae yna mwy nag ugain rheswm wedi eu nodi yn y Ddeddf, gan gynnwys:

  • Byddai’n costio gormod i gasglu’r wybodaeth
  • Mae’r wybodaeth ar gael rhywle arall
  • Rydym yn bwriadu cyhoeddi hyn yn y dyfodol
  • Mae’n ymwneud gyda pherson byw
  • Casglwyd y wybodaeth at ddibenion ymchwiliadau neu weithdrefnau y mae modd i modd i ni eu cynnal, fel gorfodaeth  

Mewn nifer o achosion, rhaid i ni ystyried a yw’r budd cyhoeddus o ran gwrthod datgelu’r wybodaeth yn gryfach na’r budd cyhoeddus sydd yn rhan o ddatgelu’r wybodaeth. 

Roedd y Cod Ymarfer DRhG cyfredol wedi ei gyhoeddi gan y Swyddfa Cabinet yng Ngorffennaf 2018 a dyma’r sylfaen ar gyfer cydymffurfio gyda’r Ddeddf. Mae yna   God Ymarfer RhGA cyfatebol sydd ar gael o’r SCG.

Cynllun Cyhoeddiadau

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddiadau model y Comisiynydd Gwybodaeth. Mae’n amlinellu’r mathau o wybodaeth y mae’r Cyngor yn bwriadu ei gyhoeddi. Y nod yw sicrhau bod y wybodaeth yn hawdd i’w chanfod a’i defnyddio, a hynny ar gyfer yr awdurdod ac unrhyw unigolyn.  Mae’n amlinellu’r mathau o wybodaeth y mae’r Cyngor yn cyhoeddi yn gyson. Y nod yw sicrhau bod y wybodaeth yn hawdd i’w chanfod a’i defnyddio, a hynny ar gyfer yr awdurdod ac unrhyw unigolyn. 

Mae mwy o wybodaeth ar gael yma Pa wybodaeth sydd angen i ni gyhoeddi? Ar wefan y SCG. 

Helpwch Eich hunain…

Ar gyfer rhai o’r ceisiadau rhyddid gwybodaeth mwyaf cyffredin yr ydym yn derbyn, rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth ar ein gwefan.

  • Log Datgelu – rydym yn cyhoeddi’r atebion i’r ceisiadau yr ydym yn derbyn yn gyson ar dudalen Log Datgelu DRhG.
  • Claddu Iechyd Cyhoeddus – rydym yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar y dudalen am fynwentydd a chladdu.
  • Ceisiadau Cyn-ymgeisio – Os yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol yn derbyn cais, a hynny o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth neu’r Rheoliadau Iechyd Amgylcheddol, i ddatgelu gwybodaeth sydd yn ymwneud gyda’r ymholiad cyn-ymgeisio, rhaid iddynt wneud hyn oni baid bod hyn wedi ei esemptio o dan y Ddeddf. Noder:  Rydym ond yn medru gwrthod datgelu gwybodaeth o dan y DRhG neu’r RhGA os yw’r wybodaeth yn dod o dan un o’r esemptiadau neu’r eithriadau sydd wedi eu nodi yn y ddeddfwriaeth. Ar gyfer rhai materion cyn-ymegisio penodol, byddai’r ymgeisydd yn derbyn cyngor i gwblhau’r rhestr wirio sydd yn fasnachol sensitif sydd yn amlinellu  y rhesymau pam, ac am ba mor hir, y maent yn teimlo y dylid cadw’r wybodaeth yn gyfrinachol. Fodd bynnag, tra ein bod yn ystyried y farn hon, y Cyngor sydd yn penderfynu yn y pendraw ynglŷn ag a ddylid ymatal rhag datgelu’r wybodaeth. Y Cyngor sydd yn gorfod cydymffurfio gyda’r Ddeddf Diogelu Data ac ni fydd yn rhannu unryw wybodaeth bersonol gyda thrydydd parti.  

Fel arall, mae’n werth gwirio’r ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth blaenorol sydd wedi eu cyflwyno drwy’r wefan  What Do They Know

Noder os gwelwch yn dda nad yw’r Cyngor, yn dilyn penderfyniad a wnaed gan Dribiwnlys Hawliau Gwybodaeth Lefel Gyntaf EA/2018/0033 yn cyhoeddi’r data mwyach am gyfraddau busnes ar y tudalennau gwe. Ni fyddwn yn datgelu unrhyw wybodaethau am gyfrifon cyfraddau busnes menw ymateb i geisiadau DRhG.   

Cyfraddau Cydymffurfiaeth

Rydym yn ceisio ymateb i’r holl geisiadau am wybodaeth o fewn 20 diwrnod gwaith.  Nid yw diwrnodau’r penwythnos  a Gŵyl y Banc yn cael eu hystyried fel diwrnodau gwaith.

Mae ystadegau ynglŷn â pha mor aml yr ydym yn cwrdd â’r nod yma ynghyd â’r nifer o geisiadau yr ydym wedi derbyn, a sut ydym wedi ymateb, i’w gweld yn y ddogfen isod   (caiff ei diweddaru’n chwarterol).

Cyflwyno cais

Mae modd i chi gyflwyno cais Rhyddid Gwybodaeth i ni drwy e-bostio foi@monmouthshire.gov.uk.

Darllenwch ein Polisi Preifatrwydd a Chwcis y Wefan am wybodaeth bellach. 

Adolygiadau Mewnol

Os nad ydych yn fodlon gyda’r modd y mae’r Cyngor wedi delio gyda’ch cais am wybodaeth, mae modd i chi wneud cais am adolygiad o fewn 40 diwrnod gwaith ar ôl derbyn y wybodaeth. Mae manylion llawn i’w gweld yn y ddogfen, Adolygiad Mewnol.   

Cyflwynwch gais DRhG

  • E-bostiwch: foi@monmouthshire.gov.uk
  • Danfonwch lythyr at: Rhyddid Gwybodaeth, Cyngor Sir Fynwy, Neuadd y Sir, y Rhadyr, Brynbuga, NP15 1GA (noder os gwelwch yn dda bod yr holl staff RhG yn gweithio gartref ac nid ydynt o bosib yn medru cael mynediad rheolaidd at y post)

Rydych yn medru darllen canllaw defnyddiol i wneud cais am wybodaeth ar wefan y Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth.