Rydym yn sefydliad democrataidd o gynghorwyr etholedig a chyflogwn swyddogion sy’n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd.
Mae ein pencadlys ym Mrynbuga ac mae gennym hefyd swyddfeydd ym Magwyr yn ogystal â’r ‘siopau un stop’ lle gall preswylwyr alw heibio i wneud ymholiadau.
Cyflogwn tua 4,500 o bobl. Lle’n bosibl, mae gan staff eu gliniaduron eu hunain fel y gallwn weithredu poilisi o un desg i ddau o bobl – mae hyn yn arbed arian ac yn galluogi staff i weithio pryd bynnag a lle bynnag sy’n gweddu orau iddynt. Yr ethos gwaith ar draws y cyngor yw fod gwaith yn rhywbeth a wnewch ac nid yn rhywle yr ewch iddo.
Ein prif flaenoriaethau yn ein holl waith yw:
- Sicrhau fod gan bawb fynediad i addysg wych
- Diogelu pobl fregus
- Cefnogi economi cryf
Anelwn fod yn gyngor agored ac agos atoch a chaiff popeth ar ein gwefan ei gyhoeddi dan Drwydded Llywodraeth Agored. Anelwn hefyd i wella wrth wneud ein data’n agored, sy’n golygu ei fod ar gael mewn fformat rhwydd cael mynediad iddo. Mae mwy o wybodaeth ar hyn ar ein tudalen data agored.
Gweledigaeth, strategaethau, polisïau a chynlluniau
Gweld ein holl gynlluniau a pholisïau allweddolPerfformiad
Rydym yn monitro ein perfformiad yn barhaus ac ar ddechrau pob blwyddyn, ym mis Mai fel arfer, rydym yn cynhyrchu Cynllun Gwella sy’n disgrifio’r hyn a wnawn i wella gwasanaethau a chyflawni ein blaenoriaethau fel sefydliad.
Gweld ein gwybodaeth perfformiadPartneriaeth
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn gyfarfod o swyddogion gweithredol o sefydliadau gwasanaethau cyhoeddus Sir Fynwy.
Mae’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol yn eistedd o fewn ein strwythur partneriaeth. Mae’r grŵp yn diweddaru prif raglenni gweithio partneriaeth a thrafod gwell gweithio partneriaeth i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn Sir Fynwy.
Ymweld â thudalennau gwefan partneriaeth y Bwrdd Gwasanaethau LleolCyllidebau a gwariant
Rydym yn cymryd ein cyfrifoldeb i reoli cyllid cyhoeddus o ddifrif calon. Gweithiwn gyda chynghorwyr a chydweithwyr mewn adrannau eraill i sicrhau rheolaeth ariannol gadarn gwasanaethau ar gyfer pobl Sir Fynwy.
Gweld yr holl wybodaeth ariannolDiogelu data
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1998, gan alluogi’r Cyngor i brosesu data personol.
Gwybodaeth am ddiogelu dataRhyddid Gwybodaeth
Mae Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 yn galluogi pawb i ofyn i ni ryddhau gwybodaeth sydd gennym ar unrhyw bwnc neilltuol.
Ymweld â'n tudalen gwefan am Ryddid GwybodaethCydraddoldeb, hygyrchedd ac amrywiaeth
Mae gennym ymrwymiad i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ar draws ein holl wasanaethau a sicrhau eu bod yn hygyrch i bawb.
Gweld ein tudalennau gwefan ar gydraddoldebNewyddion a datganiadau i’r wasg
Mae pethau’n newid yn aml yn Sir Fynwy ac mae ein gwasanaethau’n gweithio’n galed i wella’n barhaus. Gallwch weld ein holl ddatganiadau i’r wasg ar ein gwefan neu gysylltu â’r tîm cyfathrebu.
Gweld datganiadau i'r wasg