Skip to Main Content

Rydym yma i gynnig cymorth a chyngor i gymuned ffermio Sir Fynwy.

Yr ydym yn gweithio i wella iechyd a lles anifeiliaid fferm pan ar y fferm, wrth deithio ac yn y farchnad.

Mae’r gwasanaeth hon hefyd yn delio gyda thrwyddedu sefydliadau penodol sy’n cadw anifeiliaid.

Cysylltiadau

Ffôn: 
01633 644121
01873 735420
01633 644123
E-bost: animalhealth@monmouthshire.gov.uk

Ar hyn o bryd, ni allwn gasglu gwn strae, ac nid oes gennym gyfleusterau penodedig gallwn ei argymell – gallwch reportio gweld cŵn strae trwy’r canllawiau isod. Os ydych yn gallu edrych ar ôl ci strae, bydd dal angen i chi i’w reportio er mwyn i ni allu i’w cofrestru a’i hysbysebu. Gall y ci wedyn gael i’w aduno gyda’r perchnogion. Os ar ôl 7 diwrnod nid oes neb wedi dod ymlaen, yna gall y ci gael i’w ail-gartrefu. Mae reportio i’r awdurdod lleol yn ofyniad cyfreithiol

Beth i’w wneud os ydych yn darganfod ci strae

Ebostiwch AnimalHealth@monmouthshire.gov.uk neu ffoniwch 01873 735187 (9:00am to 5:00pm Llun – Gwener)

Rhif cyswllt y tu allan i oriau arferol 5:00pm i 7:30am Llun i Wener ac ar benwythnosau, ffoniwch rif ffôn argyfwng y tu allan i oriau arferol 0300 123 1055

Beth i’w wneud os ydych wedi colli’ch ci

Byddwn yn cadw cofrestr o’r holl gŵn y rhoddwyd gwybod i ni amdanynt fel y’u canfuwyd. Cysylltwch â ni i wirio a ydym yn gwybod a ydym wedi cael gwybod am gi.

Taliadau am gŵn sy’n cael eu casglu/cadw

Os yw eich ci yn cael ei gadw, bydd rhaid talu i’w ryddhau gan gynnwys unrhyw letya, ffioedd milfeddygol ac unrhyw gostau eraill. Bydd cŵn yn cael eu cadw am hyd at 7 diwrnod. Rhaid talu’r tâl am y gwasanaeth hwn cyn i’r ci gael ei gasglu (derbynnir arian parod neu siec gyda cherdyn banc).

 

Disgrifiad

Pris (£) ac eithrio TAW (gan gynnwys yr holl dreuliau rhesymol)

Yr isafswm tâl ar gyfer rhyddhau’r ci

£60.00 

Tâl Dyddiol am Ofalu am y Ci  

Y diwrnod cyntaf ni fyddwn yn codi £25.00 ar y casglwr, Ar ôl y diwrnod cyntaf bydd y £25.00 y diwrnod yn cychwyn.£25.00 y dydd

Ffi Galw Allan am Gasglu Ci Sy’n Crwydro

£60.00 

Treuliau

£0.50c y milltir 

Taliadau am Weithio y Tu Allan i Oriau Swyddfa Arferol (5:00pm – 7:30am)

£150.00  

Ffioedd milfeddyg i’w talu gan berchennog y ci neu Gyngor Sir Fynwy.

Ffioedd milfeddyg yn berthnasol

Ffi ar gyfer Microsglodyn

£20.00 

 

Perchnogaeth cŵn cyfrifol

Mae’n ofynnol yn gyfreithiol i berchnogion sicrhau bod eu ci yn gwisgo coler a thag sy’n nodi enw a chyfeiriad y perchennog. Bellach, mae’n gyfraith bod yn rhaid i bob ci gael microsglodyn erbyn ei fod yn 8 wythnos oed a bod y manylion yn cael eu diweddaru. Rhaid i berchnogion gadw eu cŵn o dan reolaeth bob amser a pheidio â chaniatáu iddynt grwydro neu faeddu palmentydd neu ardaloedd cyhoeddus.

Sut alla i gael microsglodyn ar  gyfer fy nghi?

Bellach, mae’n gyfraith bod yn rhaid i bob ci gael microsglodyn erbyn ei fod yn 8 wythnos oed a bod y manylion yn cael eu diweddaru. Gallwch ddefnyddio unrhyw filfeddygon lleol i osod microsglodyn ar eich ci ond rhaid i weithiwr proffesiynol hyfforddedig osod microsglodyn ar eich ci, e.e. milfeddyg.

Ar 19 Mawrth 2024, cyhoeddodd holl weinyddiaethau Prydain fesurau newydd i amddiffyn adar yn well rhag y risg o ffliw adar.

Mae’n ofyniad newydd bellach i bob ceidwad adar gofrestru eu hadar yn swyddogol, waeth faint sy’n cael eu cadw, ar y Gofrestr Cadw Adar erbyn 01 Hydref 2024 yng Nghymru a Lloegr, ac ar Gofrestr Cadw Adar yr Alban yn yr Alban rhwng 01 Medi 2024 a 01 Rhagfyr 2024.

Trwy gofrestru, bydd ceidwaid yn derbyn diweddariadau pwysig sy’n berthnasol iddynt.  Bydd hyn yn helpu i reoli achosion posibl o glefydau, megis ffliw adar a chlefyd Newcastle, ac yn cyfyngu ar unrhyw ymlediad a bydd yn helpu’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (sef yr APHA) i reoli achosion posibl o glefydau.

Nid yw’n ofynnol i geidwaid yng Nghymru a Lloegr ailgofrestru os ydynt wedi’u cofrestru ar hyn o bryd.

Dogfennau

Ydych chi’n cadw adar (hyd yn oed felanifeiliaid anwes) ?

Cyngor microsglodyn

Rhestr Wirio Prynwr Cŵn Bach