Skip to Main Content

Safle hen ysgol yn Mounton, Cas-gwent, Sir Fynwy, NP16 6LA

Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno tendrau: 12:00 canol dydd, dydd Gwener 31 Ionawr 2025

Nodweddion allweddol

  • 10.82 erw / 4.38 hectar
  • Agosrwydd at dref Cas-gwent
  • Potensial datblygu masnachol neu breswyl
  • Gwerthu trwy Dendr Anffurfiol
  • Mae Pecyn Gwerthu ar gael ar gais.

Manylion Gwerthu

Y Cyfle

Adeiladwyd Ysgol Arbennig Mounton House yn y 1950au ac mae wedi’i lleoli yn Mounton, Cas-gwent. Darparodd yr ysgol leoliadau dydd a phreswyl i ddisgyblion 11 i 16 oed ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Fel rhan o’r adolygiad addysgol ehangach, caewyd yr ysgol ym mis Awst 2020 a chafodd ei datgan yn ddiweddar nad oedd ei hangen mwyach i’r cyngor a’i nodi i’w gwaredu.

Yr Eiddo

Ceir mynediad i’r safle ei hun ar hyd lôn hir, breifat oddi ar allt Pwllmeyric yr A48. Mae wedi ei leoli mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, mewn lleoliad gwledig ar gyrion pentref Pwllmeyric. Mae’r adeiladau yn ddiarffordd, wedi’u hamgylchynu gan goetir i’r de a chefn gwlad agored i’r gogledd. Mae arwynebedd y safle yn ei gyfanrwydd oddeutu 10.82 erw/4.38 hectar o faint.

Wedi’i hadeiladu yn y 1950au, mae’r ysgol yn cynnwys nifer o adeiladau, rhai ohonynt yn adeiladau deulawr, a phob un yn rhyng-gysylltiedig. Mae o adeiladwaith traddodiadol ac angen ei adnewyddu neu ei ddymchwel yn llawn yn amodol ar gynigion a chymeradwyaeth cynllunio. Mae’r arwynebedd llawr mewnol gros oddeutu 3,400 m² neu 36,600 tr² sy’n cynnwys llawr gwaelod o 2,600m² (28,000 tr²) a llawr cyntaf o 800 m² (8,600 tr²). Caeodd yr adeilad yn swyddogol yn 2020 ond mae wedi bod yn wag ers 2015.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cadw nifer fach o adeiladau annibynnol sydd wedi’u lleoli i’r de-ddwyrain ac y ceir mynediad iddynt drwy brif fynedfa’r safle i’w defnyddio gan y Gwasanaethau Addysg. Gwybodaeth bellach ar gael ar gais. Mae’r maes parcio presennol ar y safle wedi ei leoli mewn nifer o fannau cyfagos i’r dreif mynediad, ac o flaen y brif fynedfa a chefn yr ysgol.

Dull gwaredu

Mae’r cyfle yn cael ei hysbysebu ar y farchnad agored, gyda’r eiddo ar gael trwy dendr anffurfiol gyda dyddiad cau o 12.00 canol dydd dydd Gwener 31 Ionawr 2025 (oni nodir yn wahanol). Rhoddir ystyriaeth i rannu’r safle os bydd diddordeb ar wahân i’r tir a/neu adeiladau oddi wrth ddau barti neu fwy.

Rhaid cyflwyno tendrau yn unol â’r manylion a nodir yn y profforma. Dylai partïon â diddordeb sy’n cyflwyno tendr fod yn ymwybodol bod pob cynnig yn cael ei asesu yn erbyn meini prawf matrics, gan gynnwys cynnig ariannol, cyflwyniad, diwydrwydd dyladwy, hanes o lwyddiant a sefyllfa ariannu.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi datgan argyfwng hinsawdd https://www.monmouthshire.gov.uk/climate-emergency/ .

Dylai cynigion gynnwys esboniad o sut yr ydych yn bwriadu cefnogi’r datganiad hwn.

Anogir cynigwyr hefyd i fanylu ar werth ychwanegol gan gynnwys unrhyw gynigion i ddefnyddio cyflogaeth / llafur lleol a sicrhau’r budd lleol mwyaf posibl.

Mae MCC yn cadw’r hawl i ymestyn y terfyn amser tendro yn amodol ar lefel y diddordeb a dderbyniwyd.

Cofrestrwch eich diddordeb a’ch rheswm dros brynu trwy’r cyfeiriad e-bost gyferbyn neu dros y ffôn.

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â’r Tîm Ystadau am ragor o wybodaeth

Telephone: 01633 644417


Available Property Page