Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch o gyhoeddi bod y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) wedi darparu diweddariad ynghylch ailagor Pont Inglis, Trefynwy.
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gyllid wedi’i sicrhau, mae’r gwaith yn mynd rhagddo, gyda disgwyl i gontractwyr gael eu penodi yn ystod haf 2025. Disgwylir i’r cyfnod adeiladu barhau am gyfnod o 12 wythnos, gyda disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn galendr, yn amodol ar benodi contractwyr llwyddiannus a chaniatâd amgylcheddol.
Mae Cyngor Sir Fynwy yn croesawu’r newyddion bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi sicrhau cyllid ar gyfer y gwaith hanfodol sydd ei angen i ailagor Pont Inglis a’r diweddariad diweddaraf hwn. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn parhau i ymgysylltu â’r Weinyddiaeth Amddiffyn, Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid a rhanddeiliaid allweddol ehangach i sicrhau cynnydd cynaliadwy.
Dwedodd Cyng. Sara Burch – Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth Cyngor Sir Fynwy, “Mae Pont Inglis, sy’n eiddo i’r Weinyddiaeth Amddiffyn, yn gyswllt hanfodol i gerddwyr ar gyfer cymuned Trefynwy, ac rydym yn diolch i drigolion am eu hamynedd a’u cefnogaeth barhaus.”
Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid Cymru, sy’n cynnal y bont ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn, “Hoffem sicrhau’r gymuned leol ein bod yn gweithio mor gyflym â phosibl i adfer mynediad diogel ar draws y bont.”