Skip to Main Content

Mae’r gwaith o dorri coed yn fecanyddol ar Gomin y Felin ym Magwyr fel rhan o’r Grant Buddsoddi mewn Coetir (TWIG) wedi’i atal oherwydd bod y Gwanwyn yn mynd rhagddo a nifer o nythod adar wedi eu canfod yn yr ardal.

Mae ecolegwyr wedi bod yn gweithio’n agos gyda chontractwyr drwy gydol y gwaith coed i darfu cyn lleied â phosibl ar fywyd gwyllt lleol. Ar ôl darganfod y nythod, penderfynwyd atal y gwaith a chwblhau unrhyw waith torri sydd ar ôl yn yr Hydref.

Bydd gwaith i adfer y coetir na fydd yn tarfu ar adar sy’n nythu yn parhau, gan gynnwys gwrychoedd marw, cael gwared â malurion, a malu bonion ar hyd ymylon y llwybr lle mae’r gwaith cwympo eisoes wedi’i gwblhau.

Nid oes disgwyl i’r newid hwn effeithio ar rannau eraill o’r prosiect ehangach. Bydd Cyngor Sir Fynwy yn gallu cychwyn prosiectau gwirfoddoli, gan gynnig cyfleoedd i’r gymuned helpu i adfywio Comin y Felin.

Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i adfer y llwybrau er mwyn sicrhau y gellir gwneud gwaith ar draws yr holl ardaloedd lle mae’r gwaith o dorri’r coed wedi ei gwblhau. Bydd rhan olaf y llwybr yn cael ei orffen yn yr Hydref/Gaeaf.

Gwerthfawrogwn amynedd trigolion a’u cydweithrediad â’r contractwyr drwy gydol y gwaith coed a deallwn y bu tarfu ar fynediad ar y safle.

Rydym hefyd yn cydnabod y newidiadau i’r coed o ganlyniad i’r gwaith, sy’n amlygu maint y coed ynn yr effeithiwyd arnynt gan glefyd (Chalara) coed ynn ar Gomin y Felin. Bydd coed brodorol yn cael eu hailblannu yn yr Hydref/Gaeaf.

Yn y cyfamser, bydd y coedydd yn dechrau aildyfu’n naturiol o lasbrennau a hadau sydd eisoes yn bresennol.

Dywedodd y Cynghorydd Catrin Maby, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd: “Er ein bod yn siomedig y bydd rhywfaint o’r gwaith yn cael ei ohirio tan yr hydref, rydym yn cymryd ein dyletswyddau i ddiogelu adar sy’n nythu o ddifrif ac rydym yn hyderus y bydd y prosiect adfer coetir wedi’i gwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2026.” I gael rhagor o wybodaeth, neu i gofrestru diddordeb mewn gwirfoddoli, ewch i: prosiect Adfer Comin y Felin – Monlife

Tags: ,