Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy yn falch ei fod wedi derbyn hyd at £8.2 miliwn o mewn cyllid trafnidiaeth ar draws y sir i gyflenwi amrywiaeth o brosiectau.

Mae’r cyllid yn cynnwys cyfraniadau o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, y Gronfa Trafnidiaeth Leol, y Gronfa Ffyrdd Cydnerth, Cyfalaf a Refeniw Diogelwch Ffordd a Llwybrau Diogel mewn Cymunedau.

Caiff y cyllid hwn ei ddyrannu ar sail prosiect unigol ac ni fedrir ei ddefnyddio ar gyfer cynnal a chadw cyffredinol ar ein rhwydwaith priffyrdd.

Gall Cyngor Sir Fynwy barhau i weithredu ei brosiectau trafnidiaeth ar draws y sir sy’n anelu i wella mynediad, diogelwch a hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy.

Dyfarnwyd cyllid i brosiectau o’r grantiau trafnidiaeth canlynol:

  • Seilwaith bysus
  • Hyfforddiant diogelwch ffordd
  • Seilwaith 20mya
  • Cynlluniau gostwng damweiniau
  • Teithio Llesol

Daeth y rhan fwyaf o’r cyllid o’r Gronfa Teithio Llesol gyda chyfanswm dyfarniad o £6.5 miliwn, yn fwyaf arbennig ar gyfer prosiect y Fenni i Llan-ffwyst.

Mae ffocws strategol Teithio Llesol Cyngor Sir Fynwy yn canolbwyntio ar wneud teithio llesol y dewis naturiol cyntaf ar gyfer teithiau lleol drwy wella seilwaith cerdded ac olwyno i gyrchfannau allweddol o fewn ein cymunedau.

Dywedodd y Cyng Catrin Maby, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae’n galonogol cael cyllid wedi ei gytuno ar gyfer cynifer o brosiectau trafnidiaeth ar draws Sir Fynwy. Bydd pob un yn ein helpu i wneud trafnidiaeth yn fwy effeithiol ar gyfer cymunedau ym mhob cornel o’r sir. Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwaith yn dechrau.”

Meddai’r Cyng Sara Burch, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth ar Gyngor Sir Fynwy: “Mae’n dda gweld parhau’r lefel cymorth ar gyfer Teithio Llesol yma yn Sir Fynwy ac yn arbennig gynllun teithio llesol Llan-ffwyst i’r Fenni. Gwyddom pa mor bwysig yw’r cynllun hwn er mwyn darparu cysylltiadau diogel o fewn y gymuned, ac edrychaf ymlaen at roi mwy o wybodaeth maes o law ar y camau nesaf.”

Mae mwy o wybodaeth yma ar y cyllid a ddyfarnwyd: Grantiau trafnidiaeth awdurdod lleol a ddyfarnwyd 2025 i 2026 | LLYW.CYMRU

Tags: , ,