Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) yn mynegi pryder mawr ynghylch y posibilrwydd bod Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn dechrau sychu, ased annwyl a hanfodol i Dde-ddwyrain Cymru.

Mae’r gamlas, sy’n enwog am ei harddwch ac a bleidleisir yn rheolaidd fel un o’r rhai mwyaf prydferth yn y DU, yn darparu buddion cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sylweddol i’r rhanbarth.

Mae CSF yn cytuno gyda’r holl sefydliadau ac unigolion sy’n annog dod o hyd i ateb nawr bod tynnu dŵr o Afon Wysg wedi’i leihau.

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru i ddod o hyd i ateb cyn i’r pryderon presennol ddod yn realiti.

Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, “Mae’r syniad o ganiatáu i’r gamlas hon redeg yn sych yn annerbyniol. Mae’n ased llawer rhy bwysig i’w beryglu. Byddwn yn cydweithio â’r holl sefydliadau i sicrhau dyfodol un o drysorau mwyaf Cymru.”

Mae Cyngor Sir Fynwy yn parhau i fod yn ymrwymedig i warchod Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog a sicrhau ei gyfraniad parhaus at lesiant De-ddwyrain Cymru.

Tags: ,