Skip to Main Content

Mae Clwb Beiciau Modur Gorllewin Caerloyw a Fforest y Ddena yn cynnal 38fed Treialon Beiciau Modur Wygate ddydd Sul 13 Ebrill.

Mae’r clwb yn aelod o’r Gymrodoriaeth Gyrwyr Llwybr, sy’n ei gwneud yn ofynnol i aelodau ddilyn cod ymarfer.

Er nad yw’r digwyddiad angen caniatâd y cyngor, mae’r trefnwyr wedi cydlynu’n llawn gyda Grŵp Ymgynghorol Diogelwch Digwyddiadau Sir Fynwy sy’n cynnwys Cyngor Sir Fynwy a Heddlu Gwent.

Mae mwyafrif y llwybr a gytunwyd yn dilyn priffyrdd y mae gan y gyrwyr hawl i’w defnyddio, ond mae adrannau o’r llwybr yn cynnwys yr hawliau tramwy canlynol:

Llwybr ceffylau yn Fferm Hygga

Ardaloedd Mynediad Agored yng Nghoedwig Lydart Orles, Coedwig Parc y Cyrnol / Coedwig Lower Hale / Coedwig Pwllplyddin

Cafodd Clwb Beiciau Modur Gorllewin Caerloyw a Fforest y Ddena ganiatâd ysgrifenedig gan y perchnogion tir perthnasol a chytuno ar amodau neilltuol, yn cynnwys:

Hysbysiadau/arwyddion a marcwyr i’w gosod allan yn hysbysu’r cyhoedd am y math, dyddiad ac amser y digwyddiad i’w codi pum diwrnod cyn y digwyddiad

Arwyddion priodol i’w codi ar unrhyw gyffyrdd o hawliau tramwy cyhoeddus yn rhybuddio cystadleuwyr a’r cyhoedd fod angen gofal

Uchafswm terfyn cyflymder o 15MYA neu is ar gyfer pob hawl tramwy cyhoeddus.

Bydd y trefnwyr yn unioni unrhyw ddifrod a achosir gan y digwyddiad i wyneb unrhyw hawl tramwy a Nanny’s Lane.

Gwneir yn glir i gystadleuwyr nad yw’r llwybr dros Nanny’s Lane a’r llwybrau ceffylau yn hawliau tramwy i gerbydau a dim ond ar gyfer y digwyddiad hwn y mae awdurdod i’w defnyddio ac na ddylid eu defnyddio wedyn.

Ardaloedd mynediad agored yw lle mae gan aelodau’r cyhoedd hawl i gerdded. Oherwydd hyn, mae Cyngor Sir Fynwy yn ei gwneud yn ofynnol i drefnwyr treialon i weithredu’r un rheolau i’r adrannau hyn ag i’r rhai dros hawliau tramwy.

Dywedodd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae Sir Fynwy yn croesawu gyrwyr cyfrifol i’n sir, ynghyd â’u cefnogwyr a gwylwyr.

“Gobeithiaf y bydd y gyrwyr yn mwynhau’r digwyddiad a’u harhosiad yn ein hardaloedd gwledig hyfryd. “Hoffwn ddiolch i’r trefnwyr gwirfoddol am weithio gyda ni i sicrhau y cynhelir y digwyddiad yn ddiogel a heb fawr iawn o darfu yn lleol.”

Tags: ,