Skip to Main Content

Ar ddydd Iau, 27ain Mawrth, croesawodd Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant, i Gas-gwent.

Fel rhan o’r ymweliad, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â lleoliadau amrywiol sydd wedi elwa o grantiau Llywodraeth Cymru fel rhan o’r Prif Gynllun Trawsnewid Cas-gwent, gan gynnwys y Drill Hall a’r Rainbow Centre.

Dangoswyd hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet sut mae gwaith yn mynd rhagddo ar ailddatblygu Severn View yn llety dros dro i’r digartref.

Ymunodd y Cynghorydd Brocklesby, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, y Cynghorydd Paul Griffiths, Maer Cas-gwent – ​​Tudor Griffiths ac aelodau o Gyngor Tref Cas-gwent ag Ysgrifennydd y Cabinet, gan roi cyfle i arddangos yr ymdrechion cydweithredol rhwng y Cyngor Sir a Chyngor Tref Cas-gwent.

Yn dilyn yr ymweliad, dywedodd y Cynghorydd Brocklesby, “Roeddem yn falch iawn o groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i Gas-gwent. Roedd yn hyfryd gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi gwella cyfleusterau ac ychwanegu at atyniad a bywiogrwydd Cas-gwent. Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu gweld drosti ei hun sut y gwnaeth cydweithio’n agos â’r Cyngor Tref a grwpiau cymunedol wrth ddefnyddio’r cyllid a’r grantiau sydd ar gael helpu nid yn unig i wella mannau cymunedol ar gyfer preswylwyr a gwella ansawdd bywyd trigolion.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths, “Ar draws y Sir, rydym yn gweithio’n agos gyda Chynghorau Tref i sicrhau bod canol ein trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog a chroesawgar.”

Mae Rhaglen Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru wedi hwyluso prosiectau amrywiol yng Nghas-gwent. Y llynedd, dyrannwyd cyllid i ddarparu to newydd i’r Drill Hall, gyda chyllid ychwanegol wedi’i gymeradwyo’n ddiweddar ar gyfer uwchraddio tu fewn y Neuadd, gan greu gofod mwy croesawgar ac amlbwrpas at ddefnydd y gymuned.

Cafodd adeilad Caffi’r Rainbow Trust, sy’n eiddo i Elusen Ymddiriedolaeth Enfys Cas-gwent, ei ailagor yn swyddogol ar ôl ei adnewyddu’n ddiweddar. Mae’n darparu gwasanaeth gwerthfawr i’r dref drwy gynnal Oergell Gymunedol Cas-gwent a Chlwb Bwyd Cas-gwent.

Wedi’i leoli ar Stryd Moor, un o’r pyrth i Gas-gwent, mae’r adeilad bellach yn oleufa groesawgar i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae Caffi’r Rainbow Trust wedi derbyn cyllid gan Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref Cas-gwent, Rhaglen Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, a Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i drawsnewid y lle yn ganolbwynt hardd, croesawgar.

Y man galw olaf oedd Severn View, a arferai fod yn gartref gofal, i weld y cynnydd o ran ailbwrpasu’r adeilad yn llety dros dro i’r digartref. Unwaith y bydd wedi’i gwblhau, bydd Seven View yn darparu llety, gofod cymunedol, a gerddi. Bydd yn gartref i wasanaethau a chefnogaeth amrywiol i helpu trigolion Seven View i ailadeiladu eu bywydau.