Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dwy ffair swyddi fis nesaf.

Cynhelir y digwyddiadau ar 3ydd Ebrill yng Nghil-y-coed yn Neuadd Côr Cil-y-coed ar Lôn y Felin ac ar 10fed Ebrill yn Y Fenni yn Neuadd y Farchnad. Bydd y ddwy ffair swyddi yn cael eu cynnal rhwng 10amac 1pm, gydag awr dawelach yn cael ei chyflwyno rhwng 11.30am a 12.30pm i annog unigolion i fynychu.

Mae’r digwyddiadau a gynhelir mewn partneriaeth rhwng Cyngor Sir Fynwy a’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi’u hanelu at drigolion Sir Fynwy 16 oed a hŷn sy’n chwilio am waith neu i ddod yn ymwybodol o’r cyfleoedd o fewn y farchnad lafur leol.

Mae saith deg o sefydliadau ar hyn o bryd wedi cofrestru i fynychu’r ddau ddigwyddiad hyn, gan ddod â swyddi gweigion byw ar draws sectorau amrywiol a chynnig cyfle i fynychwyr ddysgu mwy am bob sefydliad a’r rolau sydd ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Griffiths, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd: “Mae ffeiriau swyddi yn ffordd wych o gwrdd â darpar gyflogwyr ac i gael eich enw allan yna.

“Dewch draw i’r ffair swyddi yng Nghil-y-coed neu’r Fenni i weld beth sydd ar gael.

“Nid ydych byth yn gwybod ond gallech chi gwrdd â’ch cyflogwr newydd.”

I gael rhagor o wybodaeth am y Ffeiriau Swyddi neu gymorth i gyflogaeth, e-bostiwch  employmentskills@monmouthshire.gov.uk 

neu ewch i mccemployskills.co.uk