Skip to Main Content

Bydd blychau cof newydd ar gael yn Hybiau Cymunedol Sir Fynwy o fis Ebrill 2025.

Diolch i gyllid gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, mae MonLife Heritage Learning wedi datblygu 15 o flychau atgofion newydd i’w defnyddio yn y gymuned.

Mae pob blwch ar gael i’w fenthyg am ddim, yn debyg i fenthyca llyfr llyfrgell.

Mae pob blwch cof yn cynnwys cyfoeth o wrthrychau a ddewiswyd yn ofalus sy’n ddelfrydol ar gyfer hel atgofion am ddigwyddiadau’r gorffennol gydag oedolion hŷn neu bobl sy’n byw gyda dementia. Mae gan bob blwch thema wahanol fel y gall defnyddwyr sgwrsio am brofiadau ac atgofion amrywiol.

Lansiwyd y gwasanaeth yn ddiweddar yn Hyb Cymunedol Cil-y-coed. Roedd y digwyddiad yn arddangos gwybodaeth a chefnogaeth i bobl sy’n byw gyda dementia, gan gynnwys Darllen yn Well ar gyfer Dementia.

Mae Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn argymell adnoddau darllen a digidol defnyddiol i bobl sy’n byw âdementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr. Roedd cyfle hefyd i ganu gyda Chlwb Canu Cas-gwent a chymryd rhan mewn gweithgaredd crefft gan Ddysgu Cymunedol Sir Fynwy.

Dywedodd y Cynghorydd Angela Sandles, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Gydraddoldeb ac Ymgysylltu: “Diolch i gyllid gan Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Cymru, mae ein swyddogion Dysgu Treftadaeth MonLife wedi llwyddo i greu blychau atgofion a fydd yn dod â hanes yn fyw.

“Rwyf wedi mwynhau archwilio’r blychau hyn fy hun, ac rwy’n annog pobl i’w benthyca i greu eiliadau o hel atgofion.”

Hoffai Cyngor Sir Fynwy ddiolch i Gyngor Llyfrau Cymru am ariannu’r lansiad.

I ddod o hyd i’ch hyb cymunedol lleol, ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/hybiau-cymunedol-sir-fynwy/