Ar 12fed Mawrth 2025, gwahoddwyd gweithwyr proffesiynol o bob rhan o ofal cymdeithasol, iechyd ac addysg i Ŵyl Cymorth i Deuluoedd Cyngor Sir Fynwy.
Fe’i cynhaliwyd yn Neuadd y Sir, Brynbuga, a bu’n fodd i weithwyr proffesiynol o bob rhan o’r Sir a thu hwnt siarad â thimau’r Cyngor sy’n cefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd ac i ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael iddynt a’r bobl y maent yn eu cefnogi bob dydd.
Nod y digwyddiad oedd datblygu’r gwaith cydweithredol rhwng addysg, y gwasanaeth iechyd a thimau’r Cyngor ar draws y Sir.
Roedd rhai o’r timau a ddangosodd eu gwasanaethau yn cynnwys:
- Adeiladu Teuluoedd Cryf
- Cwnsela Ysgol a Chymuned
- Tîm Cyflawni Newid Gyda’n Gilydd
- Maethu Cymru Sir Fynwy
- Tîm Datrys Teuluoedd
- Panel Lles S.P.A.CE (Pwynt Mynediad Sengl i Les Emosiynol Plant)
- Gwasanaeth Ieuenctid Sir Fynwy
- Therapïau creadigol
- Gweithredu dros Blant



Os oes gennych ddiddordeb i ddysgu mwy am y gwasanaethau sydd ar gael gan ein timau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ewch i: www.monmouthshire.gov.uk/cy/gofal-cymdeithasol-yn-sir-fynwy/
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu a Gwasanaethau Iechyd Hygyrch, y Cynghorydd Ian Chandler: “Rydym i gyd yn gwybod am y pwysau sy’n cael ei deimlo ar hyn o bryd gan blant, pobl ifanc a theuluoedd a’r gwasanaethau sy’n eu cefnogi. Fel sefydliad, rydym yn falch o’r gwaith rydym yn parhau i’w wneud i gefnogi’r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.
“Galluogodd y digwyddiad hwn i weithwyr proffesiynol gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael a hefyd i ddod i adnabod y timau sy’n gweithio o fewn y gwasanaethau hynny.”
“Fel Cyngor, byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau eraill i sicrhau’r gwasanaethau gorau posib i’n holl drigolion.”