Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy, mewn partneriaeth â Chyngor Tref Y Fenni, yn gofyn am eich barn ar Gynllun Creu Lleoedd Y Fenni.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod canol trefi yn parhau i fod yn lleoedd bywiog a chroesawgar sy’n diwallu anghenion y cymunedau lleol, busnesau ac ymwelwyr.

Bydd y cynllun creu lleoedd arfaethedig ar gyfer Y Fenni yn:

  • Adnabod a dadansoddi’r heriau a’r cyfleoedd yng nghanol tref Y Fenni.
  • Creu gweledigaeth hirdymor ar gyfer canol y dref mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid lleol.
  • Darparu cynllun gweithredu â blaenoriaeth i wireddu’r weledigaeth, mynd i’r afael â heriau a gwneud y gorau o’r cyfleoedd.

Rhwng 4ydd Ebrill a’r 5ed Mai, gallwch weld a rhoi adborth ar y cynlluniau arfaethedig drwy lwyfan ymgysylltu’r Cyngor, Sgwrsio am Sir Fynwy.

Rydym eisiau clywed gennych chi fel preswylydd, busnes lleol, mudiad gwirfoddol neu rywun sydd â diddordeb yn nyfodol canol tref Y Fenni.

I lansio’r ymgynghoriad, mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnal dwy sesiwn galw heibio yn 7 Stryd y Felin, hen Siop Timothy Oulton, Y Fenni, NP7 5HE (oddi ar Rhan Isaf Stryd y Groes), ar ddydd Gwener, 4ydd Ebrill, rhwng 10am a 7pm a dydd Sadwrn, 5ed Ebrill, rhwng 10am a 4pm. Dewch draw i weld y cynlluniau a gofyn eich cwestiynau i swyddogion.

Bydd cynlluniau hefyd yn cael eu harddangos yn hen Siop Timothy Oulton tan ddydd Sul, 27ain Ebrill. Bydd arolygon papur ar gael i’w llwytho i lawr neu eu casglu o Ganolfan Groeso’r Fenni neu swyddfa’r Cyngor Tref, sydd wedi eu lleoli yn adeilad Neuadd y Farchnad.

I ddysgu mwy, gweld y cynlluniau a chymryd rhan yn yr arolwg ewch i www.sgwrsioamsirfynwy.co.uk/gwella-y-fenni

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths: “Mae eich adborth yn hanfodol wrth i ni ddatblygu’r cynllun creu lleoedd ar gyfer y Fenni. Bydd y cynigion yn gwella’r Fenni ymhellach fel cyrchfan leol i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd, gan wella ymhellach olwg a theimlad canol y dref. Mae gweithio gyda Chyngor Tref Y Fenni ar y cynlluniau hyn wedi bod yn brofiad gwerth chweil, ac edrychwn ymlaen at glywed eich barn.”

Anogodd y Cynghorydd Tref Philip Bowyer, sy’n gadeirydd grŵp llywio Creu Lleoedd y Fenni, bawb i ddod i’r ymgynghoriadau, wyneb yn wyneb neu ar-lein, “Dyma gyfle i bawb roi gwybod i’r Cynghorau sut rydych am i’ch tref ddatblygu. Peidiwch â’i golli.”

Ariennir y prosiect hwn gan Gyngor Sir Fynwy, Cyngor Tref Y Fenni a Rhaglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.

Mae Creu Lleoedd yn ddull cynhwysfawr o gynllunio a datblygu, sy’n canolbwyntio ar greu mannau bywiog, cynaliadwy a chynhwysol. Mae’n sicrhau bod unrhyw newidiadau neu fuddsoddiadau a wneir yng nghanol y dref yn diwallu anghenion uniongyrchol ac yn cyfrannu at lesiant hirdymor y gymuned.

I ddysgu mwy am y cynlluniau creu lleoedd a sut y gallwch chi gymryd rhan, e-bostiwchMCCRegeneration@monmouthshire.gov.uk