Skip to Main Content

Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau adnewyddu toiledau Stryd Welsh yng Nghas-gwent ar 24ain Mawrth 2025.

Rhagwelir y bydd y prosiect yn cymryd tua phum wythnos i’w gwblhau.

Tra bod toiledau’r dynion a’r merched yn cael eu hadnewyddu, bydd y toiledau hygyrch yn parhau i fod ar gael i bawb. Ar ddiwedd y rhaglen a drefnwyd, bydd gwaith yn cael ei wneud wedyn i adnewyddu’r toiledau hygyrch.

Mae toiledau cyhoeddus yn y Ganolfan Groeso. Yn ogystal, mae un toiled cyhoeddus hygyrch a chyfleuster newid cewynnau ar gael yn Llyfrgell Cas-gwent.

Yn sgil y gwaith parhaus, bydd nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar gau i’r cyhoedd.

Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy ac Aelod Cabinet dros Gynllunio a Datblygu Economaidd, y Cynghorydd Paul Griffiths:

“Rydym yn gwerthfawrogi y bydd y gwaith adnewyddu yn anghyfleustra yn y tymor byr i ddefnyddwyr y maes parcio a’r ardaloedd cyfagos. Fodd bynnag, bydd y gwaith hwn yn y pen draw yn creu cyfleuster gwell i bawb. Diolch am eich cydweithrediad yn ystod y cyfnod hwn.”

“Arweiniwyd y buddsoddiad hwn gan Grŵp Cyflawni Trawsnewid Cas-gwent sy’n bartneriaeth rhwng y Cyngor Tref a’r Cyngor Sir sydd ill dau yn cydweithio i ddarparu toiledau yn y dref, sy’n ased hanfodol ar gyfer tref lewyrchus.”

Mae’r prosiect hwn mewn partneriaeth â Chyngor Tref Cas-gwent ac yn cael ei ariannu drwy Raglen Grant Creu Lleoedd Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru.