Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy ar fin dechrau ar y gwaith o osod wyneb y ffordd newydd ar Bont Gwy, Trefynwy, ar 22ain Ebrill 2025.

Mae disgwyl i’r gwaith barhau am 10 wythnos a bydd yn cael ei wneud dros nos, o ddydd Sul i ddydd Iau, er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl.

Rhwng 8pm a 6am, o ddydd Sul i ddydd Iau, bydd y bont ar gau i draffig, heblaw am y gwasanaethau brys. Bydd mynediad i gerddwyr ar gael drwy gydol y prosiect. Bydd dargyfeiriad wedi’i arwyddo yn ei le ar gyfer cerbydau gwasanaeth nad ydynt yn rhai brys.

Bydd y gwaith ail-wynebu yn golygu codi rhannau o’r wyneb presennol a gosod wyneb aberthol dros dro yn eu lle, gan ganiatáu i draffig ddefnyddio’r bont y diwrnod canlynol. Unwaith y bydd digon o ddarnau wedi’u cwblhau, bydd yr arwyneb aberthol yn cael ei symud, a bydd y bont yn cael ei hailwynebu’n llawn gyda haen barhaol o darmac wedi’i selio.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Newid Hinsawdd a’r Amgylchedd, y Cynghorydd Catrin Maby: “Mae hwn yn waith hanfodol i roi wyneb y ffordd newydd ar Bont Gwy. Diolch i drigolion ac ymwelwyr am eu cydweithrediad yn ystod y gwaith.”

I ddarganfod mwy a dod o hyd i Gwestiynau Cyffredin, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/ail-wynebu-pont-gwy/