Bydd Cyngor Sir Fynwy yn dechrau gwaith ar Gynllun Teithio Llesol Cil-y-coed ar 17 Mawrth 2025
Wedi’i ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru, nod y cynllun yw gwella cysylltiadau teithio llesol i Ysgol Cil-y-coed a chyrchfannau lleol eraill.
Mae strategaeth y Cyngor ar gyfer teithio llesol yn annog trigolion i ddefnyddio cerdded, beicio a mathau eraill o gludiant llesol ar gyfer teithiau byr, bob dydd. Drwy greu amgylcheddau cymunedol sy’n gwneud teithio llesol yn ddiogel, yn gyfleus ac yn ddeniadol, mae’r cynllun yn cynnig dewis cost-effeithiol ac iach yn lle gyrru, tra’n gwella effeithlonrwydd y system ffyrdd i’r rhai sydd angen gyrru.
Mae cynllun Ffordd Woodstock wedi’i ddatblygu mewn ymateb i anghenion lleol a nodwyd gan y Cyngor a sefydliadau eraill, sy’n cynnwys yr angen am lwybrau a mannau croesi mwy diogel i gerddwyr a defnyddwyr cadeiriau olwyn a bydd yn gweld uwchraddio llwybrau a chroesfannau ar hyd y ffordd i wella diogelwch, ansawdd llwybrau, a lleihau tagfeydd.
Casglodd ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd yn 2024 fewnbwn ar gynlluniau datblygu’r ardal. Roedd hyn yn cynnwys sesiynau ymgysylltu wyneb yn wyneb, ffurflen ymgynghori ar-lein, ac arolwg i ddisgyblion yn Ysgol Cil-y-coed i roi adborth.
Mae’r datblygiadau ar hyd Ffordd Woodstock yn cynnwys cynllun ffordd wedi’i ailgynllunio i ymgorffori llwybr teithio llesol a rennir, ail-leoli safleoedd bysiau Meddygfa Gray Hill yn nes at y llwybr cerddwyr i ganol y dref (i ffwrdd o gyffordd Lôn y Felin), a gosod ac uwchraddio cyfleusterau croesi, palmentydd cyffyrddol ac arwyddion.
I gael manylion llawn y gwaith arfaethedig, ewch i www.monlife.co.uk/cy/woodstockway/
Mae’r Cyngor yn gweithio gyda Wales & West Utilities a Chymdeithas Tai Sir Fynwy (MHA) i darfu cyn lleied â phosibl ar bob cynllun yng nghyffiniau Ffordd Woodstock. O’r 17 Fawrth, bydd y prosiect yn golygu cydweithio rhwng y Cyngor a Wales & West Utilities, sy’n uwchraddio mwy na 2,000 metr o bibellau nwy. Bydd pob sefydliad yn gweithio gyda’i gilydd i darfu cyn lleied â phosibl ar drigolion sy’n defnyddio’r ffordd yn ddyddiol.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith nwy ar gael ar wefan Wales & West Utilities: www.wwutilities.co.uk/in-your-area/in-your-area-map/?postcode=caldicot
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae’n wych gweld y gwaith ar Ffordd Woodstock yn dechrau. Fel Cyngor, rydym yn edrych i sicrhau’r llwybrau gorau posibl i’n trigolion ac ymwelwyr eu defnyddio wrth deithio o fewn ein trefi.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymgynghoriad y llynedd – gallwn ddylunio a datblygu llwybr teithio llesol a fydd yn gwneud teithiau pobl yn fwy diogel ac effeithlon yng Nghil-y-coed.
Rwyf hefyd yn falch o’n partneriaeth â Wales & West Utilities. Bydd y bartneriaeth waith hon yn lleihau’r effaith ar bobl o ddydd i ddydd wrth i ni ddechrau gweithredu’r cynllun.”