Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) yn parhau i ymgysylltu’n frwd â’r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) ynghylch y gwaith angenrheidiol i ailagor Pont Inglis yn Nhrefynwy.
Mae trafodaethau wedi bod yn cael eu cynnal ar y lefel uchaf i ddatrys y sefyllfa hon. Fodd bynnag, mae Pont Inglis yn parhau i fod ar gau i gerddwyr yn dilyn arolwg a gynhaliwyd gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, a ddangosodd nad yw’r bont yn ddiogel ar gyfer defnydd cyhoeddus.
Mae’r Hysbysiad Cau Argyfwng cyfredol i fod i ddod i ben ar 3ydd Ebrill.
Gan na ddaethpwyd i unrhyw benderfyniad gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn, mae cais am estyniad pellach o chwe mis yn cael ei wneud ar hyn o bryd nes bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cwblhau’r gwaith angenrheidiol i wneud y bont yn ddiogel i’r cyhoedd ei defnyddio.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymgysylltu’n gyson â’r Weinyddiaeth Amddiffyn ynghylch ailagor y bont ac mae’n annog y Weinyddiaeth Amddiffyn yn gryf i ddod o hyd i ateb.
Cysylltodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Mary Ann Brockelsby, â’r Weinyddiaeth Amddiffyn eto i fynegi siom enbyd y cyngor gyda’r diffyg cynnydd o ran adfer Pont Inglis. Nid yw’r cyngor wedi derbyn unrhyw gadarnhad o hyd ynglŷn ag amserlen ar gyfer dechrau’r gwaith.
Dywedodd y Cynghorydd Mary Ann Brocklesby, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor yn cydnabod pryderon haeddiannol y trigolion ac effeithiau cau’r bont ar bawb yn ein cymuned yn Nhrefynwy. Rydym yn parhau i bwyso ar y Weinyddiaeth Amddiffyn am eglurder ynghylch y gwaith sydd ei angen a dyddiad ar gyfer ailagor Pont Inglis.
“Rydym yn rhannu’r rhwystredigaeth a’r anghyfleustra y mae’r cau hwn wedi’i achosi. Rydym yn parhau’n ymrwymedig i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r cyhoedd yn rheolaidd am gynnydd y trafodaethau ac unrhyw ddatblygiadau.”
Dywedodd y Cynghorydd Sara Burch, Aelod Cabinet Cyngor Sir Fynwy dros Faterion Gwledig, Tai a Thwristiaeth: “Mae Pont Inglis yn gyswllt hanfodol i’r gymuned gael mynediad i fannau gwyrdd ac amwynderau lleol.
“Gwneud cais am estyniad ar gyfer y cau yw’r peth olaf yr ydym am ei wneud, ond oherwydd diffyg diweddariadau neu gynnydd o ran y gwaith gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, rydym yn ceisio sicrhau bod pawb yn parhau’n ddiogel.”